Diogelu data

Mae BywydCampws yn cynnwys pum tîm sy'n prosesu eich data mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i fyfyrwyr. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut a pham mae eich data yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio, darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd BywydCampws isod.

Prifysgol Abertawe yw'r rheolydd data ac mae’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau myfyrwyr yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) y DU  a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gellir gweld Datganiad Preifatrwydd Myfyrwyr llawn Prifysgol Abertawe yma.