Rheoli Cofnodion
Rheoli Cofnodion
Mae Prifysgol Abertawe'n cydnabod bod rheoli ei chofnodion mewn modd effeithlon ym mhob fformat yn hanfodol at ddiben darparu swyddogaethau craidd a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol a'i fod yn cyfrannu at reoli'r sefydliad yn effeithiol.
Cadw Cofnodion
Mae Cyfnod Cadw yn gysyniad allweddol ym maes rheoli cofnodion: dyma'r cyfnod amser pan fydd angen cadw cofnod neu gofnodion. Mae'r meini prawf ar gyfer pennu cyfnodau cadw yn seiliedig ar ofynion statudol a gweinyddol ac anghenion eraill.
Mae JISC wedi cyhoeddi canllawiau manwl sy'n nodi'r cyfnodau cadw statudol a'r cyfnodau a argymhellir ar gyfer cofnodion sy'n cael eu cynhyrchu gan brifysgolion. Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
- Dysgu ac Addysgu
- Ymchwil
- Trosglwyddo Gwybodaeth a Menter
- Gweinyddiaeth Academaidd
- Rheolaeth Gorfforaethol
- Adnoddau Corfforaethol
- Is-gwmnïau
- Gwasanaethau Masnachol
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Gwasanaethau Myfyrwyr
Dyma'r cyfnodau cadw a ddefnyddir gan y Brifysgol ar gyfer y mathau mwy cyffredin o gofnodion:
- Cofnodion a Phapurau Swyddogol Cyfarfodydd Amhenodol
- Ffeiliau Cofnodion Myfyrwyr 40 o flynyddoedd
- Sgriptiau Arholiadau o leiaf flwyddyn ar ôl graddio (yn amodol ar ofynion proffesiynol)
- Ffurflenni cais UCAS/Ôl-raddedig 5 mlynedd
- Cofnodion Ariannol 7 mlynedd
- Ffeiliau pwnc 7 mlynedd
- Ystadegau Adrannol 7 mlynedd
- Ffeiliau Achosion Disgyblu 7 mlynedd
- Dogfennau Cytundebol Syml 7 mlynedd
- Cofnodion Meddygol Staff 10 mlynedd
- Ffeiliau Staff sy'n Gadael 10 mlynedd
- Papurau Strategol/Papurau Gweithio Allweddol 10 mlynedd
- Cofnodion Cytundebau trwy Weithred 12 mlynedd