Gwrth-lwgrwobrwyo

Daeth Deddf Llwgrwobrwyo 2010 i rym ar 1 Gorffennaf 2011. Cyflwynodd y Ddeddf drosedd gorfforaethol o fethu ag atal llwgrwobrwyo, gan wneud sefydliad yn atebol pan fo person (h.y. cyflogai, asiant, cyfryngwr, cyd-fenter neu is-gwmni) yn cyflawni swyddogaeth berthnasol ar ran y sefydliad ac yn cyflawni gweithred llwgrwobrwyo gweithredol.

Mae hyn yn berthnasol p’un a oedd y sefydliad yn ymwybodol bod y gweithredoedd hyn yn digwydd ai peidio neu p’un a oeddent yn elwa ohonynt ai peidio. Gall y Swyddfa Twyll Difrifol osod dirwy ddiderfyn a hyd at 10 mlynedd o garchar os gwelir bod y Brifysgol wedi torri'r Ddeddf. Yr unig amddiffyniad yw bod gan y Brifysgol 'weithdrefnau digonol' ar waith i atal llwgrwobrwyo rhag digwydd. 

Mwy am Gwrth-Lwgrwobrwyo

Atal Llwgrwobrwyo - Polisi a Fframwaith

Cod Ymarfer y Ddeddf Llwgrwobrwyo ar gyfer Trydydd Partion

Enghreifftiau o Lwgrwobrwyo