Myfyrdod dan Arweiniad
Oes angen amser i chi eich hun arnoch? Ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n anniddig, neu wedi cael llond bol?
Mae ein sesiynau myfyrdod ar-lein yn ffordd wych o neilltuo 'amser personol' mewn diwrnod prysur neu ddechrau ymarfer myfyrdod dyddiol.
Gallwch ymuno â'n myfyrdodau byw drwy Zoom bob dydd Mawrth a dydd Iau am 8:30am. I gael y ddolen Zoom a dechrau'r siwrnai i dawelwch meddwl, ewch i'n wefan ddigwyddiadau.
Mae buddion myfyrdod yn rhy niferus i ni eu rhestru, ond dyma ychydig o'r manteision ar gyfer eich lles, eich meddwl a'ch corff:
- Lleihau gorbryder
- Hybu meddylfryd cadarnhaol
- Gwella hunanymwybyddiaeth
- Gwell gallu i ganolbwyntio
- Gwella cwsg
Y cyfan sydd ei angen i gymryd rhan yw lle cyfforddus a thawel. Does dim angen profiad!