Canllawiau i reolwyr a gweithwyr eraill sy'n gweithio gyda Mwslimiaid a allai fod yn ymprydio yn ystod mis Ramadan

Canllawiau Ramadan i Reolwyr

Mannau gweddi ar y campws

Campws Singleton

Mosg Singleton - Ystafell gweddïo gwrywaidd ac ystafell gweddïo benywaidd.

Wedi'i lleoli ar ochr ddwyreiniol y llyfrgell a chanolfan gwybodaeth, adeilad 6. Mae'r mosg wastad ar agor, ond efallai bydd y drws ar glo a bydd angen cod arnoch. Os oes angen, danfonwch e-bost i faith.campuslife@swansea.ac.uk

Cliciwch YMA ar gyfer cyfarwyddiadau i'r mosg

Cliciwch YMA i weld yr ystafell gweddïo gwrywaidd. Cliciwch YMA i weld yr ystafell gweddïo benywaidd.

Singleton Mosque - External

Campws y Bae

Yr Hafan - Ystafell gweddïo gwrywaidd a chyfleusterau ymolchi ar y llawr gwaelod. Ystafell gweddïo benywaidd a chyfleusterau ymolchi ar y llawr cyntaf.

Wedi'i lleoli ger y canolfan chwaraeon.

Mae'r Hafan ar agor 8am - 6pm pob dydd heb cerdyn staff/myfyrwr, ond ar agor 24/7 os oes cerdyn gennych.

Cliciwch YMA ar gyfer cyfarwyddiadau i'r Hafan

Male prayer room

Mae'r mannau gweddi ar Gampws Singleton AR AGOR o hyn o bryd. Mae'r mannau gweddi ar Gampws y Bae AR AGOR.

Bydd amser gweddi Jumu'ah (Dydd Gwener) ar y ddau safle am 01:15pm. Ar Gampws y Bae, bydd Gweddi Jumu'ah (Dydd Gwener) yn y Neuadd Chwaraeon. Mae Taraweeh am 8pm ar naill campws.

Diogelwch pawb sy'n mynychu yw ein blaenoriaeth uchaf. Cofiwch gadw at holl reolau a chanllawiau prifysgol Abertawe er mwyn amddiffyn eich hun ac eraill. (gwiriwch y Canllawiau Diogelwch cyn i chi ddod i mewn i'r gofodau)

-------------------------------------------

Gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag Ympryd Crefyddol ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod cyfnodau arholiadau

Ymprydio Crefyddol yn ystod Cyfnodau Arholiadau