Gŵyl y Darlun Ehangach

Mae Ŵyl y Darlun Ehangach yn ddathliad o'r gwahanol grefyddau a diwylliannau sy'n bodoli yma yng nghymuned Abertawe! Mae'r ŵyl wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda myfyrwyr ac aelodau'r gymuned fel ei gilydd wrth iddynt arddangos eu diwylliant trwy amrywiol ffyrdd - boed hynny'n fwyd, dawns, cerddoriaeth, neu fwy!  

Cynhelir yr ŵyl ym mis Mawrth bob blwyddyn, gydag arddangosfa ar naill campws Prifysgol Abertawe. Eleni cynhelir y dathliadau ar ddydd Mawrth y 5ed o Fawrth ar Gampws y Bae (Y Twyni) ac ar ddydd Iau, Mawrth 7fed ar Gampws Singleton (Taliesin). 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr ŵyl, cysylltwch â ni neu os ydych chi eisiau dod draw i weld beth yw pwrpas hynny, dewch draw! Mae mynediad am ddim a gallwch ymweld unrhyw bryd yn ystod yr ŵyl! Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, mae croeso i chi anfon e-bost at dîm Cydraddoldebau BywydCampws – equalities.campuslife@swansea.ac.uk! Mae gan Brifysgol Abertawe a'r ardal gyfagos gymuned hynod fywiog, ac rydym am arddangos hyn i'r eithaf felly peidiwch ag oedi cyn cymryd rhan! 

Eisiau gweld sut aeth yr ŵyl llynedd?

Gwyliwch y fideo yma i weld sut wnaethon ni fwynhau tri diwrnod anhygoel o ddathlu! Gallwch weld yr amrywiaeth eang o grefyddau a diwylliannau sy'n cael eu harddangos ar draws y ddau gampws!