Mae’r grŵp anffurfiol hwn yn cynnwys pobl sy’n dod o sawl ffydd a diwylliant. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd at y dibenion canlynol:

  • Rhannu a meithrin gwybodaeth am ffydd a chredoau ein gilydd
  • Trefnu digwyddiadau i ddathlu a hybu trafodaeth ryng-ffydd

Yn ystod y pandemig COVID-19 hwn, wnaethom dod at ein gilydd yn rheolaidd i rannu profiadau a phryderon ac yn ddiweddar rydym wedi lansio neges o obaith ar fideo:

 

Rydym wedi cadw’r grŵp hwn yn anffurfiol yn bwrpasol, er mwyn inni allu ehangu fel sy’n briodol ac ymateb i amgylchiadau wrth iddynt godi. Os hoffech chi ymuno â ni, cysylltwch â ni.

Edrychwch ar ein Grŵp Facebook  i ddysgu rhagor am ein digwyddiadau a’n trafodaethau sydd ar ddod.