Do Not Go Gentle

Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrif un o gerddi enwocaf Thomas, Do Not Go Gentle Into That Good Night.

Mae casgliad digidol llawn llawysgrifau, nodiaduron a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r llenor o Gymru Dylan Thomas ar gael am ddim ar-lein bellach, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.

Mae'r prosiect arloesol, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Dylan Thomas, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Tecsas, sy'n meddu ar y casgliad mwyaf yn y byd o drawsgrifiadau a llythyrau'r bardd a'r dramodydd a anwyd yn Abertawe.

Mae Casgliad Digidol Dylan Thomas yn cynnwys mwy na 6,000 o ddelweddau digidol, gan gynnwys llawysgrifau, gohebiaeth, nodiaduron, lluniau, ffotograffau a mwy. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ledled y byd astudio ei waith llenyddol a deall ei broses greadigol.

Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrif un o gerddi enwocaf Thomas, Do Not Go Gentle Into That Good Night, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1951.

Mae deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r ddrama radio Under Milk Wood hefyd yn rhan o'r archif, gan gynnwys nodiadau helaeth, brasluniau, amlinelliadau, a fersiwn ddrafft gynnar anghyflawn, ynghyd â llawysgrif ddiwygiedig.

Ganwyd Dylan Marlais Thomas ar 27 Hydref 1914 yn Uplands yn Abertawe a bu farw ar 9 Tachwedd 1953 yn Ninas Efrog Newydd. Er gwaethaf ei fywyd byr, gwnaeth gwblhau cyfoeth o waith a oedd yn adnabyddus am ei egni comig, ei oslef delynegol, a'i ddwyster, ac fe'i hystyrir yn un o feirdd Saesneg mwyaf yr ugeinfed ganrif.

“Bydd y fenter hon yn dyfnhau ein dealltwriaeth o broses greadigol Dylan Thomas ac yn rhoi goleuni newydd ar ei farddoniaeth a'i waith llenyddol arall,” meddai Stephen Enniss, Cyfarwyddwr Betty Brumbalow Canolfan Harry Ransom. “Rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad hwn â Phrifysgol Abertawe ac yn ddiolchgar hefyd i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas am ein galluogi i rannu'r casgliad gyda'i ddarllenwyr ym mhob man.”

Mae'r pumed nodiadur ‘coll’ a chopïau prin o broflenni sawl darn gan Thomas ym meddiant Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe. Dyfernir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, un o'r gwobrau rhyngwladol mwyaf clodfawr ar gyfer llenorion ifanc, i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg bob blwyddyn.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch o fod yn rhan o'r fenter hon ar y cyd â Phrifysgol Tecsas, sy'n dangos manteision helaeth cydweithredu rhyngwladol rhwng prifysgolion. Gobeithio y byddwn yn ysbrydoli darllenwyr newydd a phrofiadol wrth i ni geisio sicrhau bod y casgliad mwyaf yn y byd o ddeunyddiau Dylan Thomas ar gael yn eang i bobl ym mhob man. Rydym yn diolch yn arbennig i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas am barhau i gefnogi'r prosiect pwysig hwn.” 

Mae'r archif ddigidol yn cael ei lansio i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai, a noddir gan Ymddiriedolaeth Dylan Thomas.

Rhannu'r stori