Yn yr astudiaeth fwyaf o’i bath erioed, bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn anfon hadau am ddim at 2,000 o wirfoddolwyr i feithrin a thyfu blodau gwyllt yr haf hwn

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn edrych ar y ffordd y gall garddio, gwirfoddoli a bod yn rhan o ‘gymuned’ dros dymor tyfu cyfan fod yn llesol i iechyd meddwl

Mae angen criw o arddwyr amatur o bob rhan o’r DU ar gyfer prosiect ymchwil newydd i edrych ar fuddiannau tyfu planhigion, gwirfoddoli a chymunedau ar-lein – gan helpu ysbytai’r GIG i flodeuo hefyd.

Yn yr astudiaeth fwyaf o’i bath erioed, bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn anfon hadau am ddim at 2,000 o wirfoddolwyr i feithrin a thyfu blodau gwyllt yr haf hwn. Ar ôl i’r planhigion flodeuo, gofynnir i wyddonwyr gwerin fynd ati i gasglu eu hadau. Yna caiff y rheiny eu plannu yn ysbytai a chlinigau’r GIG yr haf nesaf i gleifion, staff ac ymwelwyr eu mwynhau.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i ymuno â chymuned ar-lein Tyfu Gyda’n Gilydd, a fydd yn rhoi awgrymiadau am dyfu a lles, a chyngor ynghylch sut i droi eu mannau awyr agored yn feithrinfeydd bywyd gwyllt.

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn edrych ar y ffordd y gall garddio, gwirfoddoli a bod yn rhan o ‘gymuned’ dros dymor tyfu cyfan fod yn llesol i iechyd meddwl. Dyma’r tro cyntaf i’r tri pheth hyn gael eu hastudio gyda’ i gilydd ar raddfa mor fawr.

Does dim rhaid i chi feddu ar arbenigedd garddwriaethol na gardd fawr - bydd pob pecyn yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn, a dim ond blwch sil ffenestr, blwch patio neu wely blodau bach fydd ei angen arnoch i ddechrau ar y gwaith.

Bydd y pecyn Tyfu Gyda’n Gilydd hefyd yn cynnwys amlenni wedi’u stampio’n barod i’r rhai sy’n cymryd rhan bostio’u cynhaeaf hadau nôl i’r Ardd Fotaneg, felly ni fydd yn costio’r un ddimai i gymryd rhan.

Gofynnir i wirfoddolwyr lenwi tri holiadur 10 munud yn ystod y prosiect.

Meddai Kathryn Thomas, swyddog prosiect yr Ardd Fotaneg:

“Bydd ein prosiect ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ yn ffordd wych i bobl gyfrannu at astudiaeth ymchwil bwysig, gan dyfu blodau gwyllt hardd ar yr un pryd. Rydyn ni’n chwilio am bobl o bob math o gefndir – a does dim angen gardd arnoch!

Rydyn ni wedi dewis planhigion yn ôl eu lliw a rhai sy’n amrywio o ran uchder ac adegau blodeuo er mwyn ennyn cymaint o ddiddordeb ag y bo modd, gan gynnwys y pabi, penlas yr ŷd a phabi’r gwenith. Arferai’r rhain fod yn gyffredin yng nghefn gwlad, ond erbyn hyn maent yn olygfa brin.” 

Meddai Dr Luke Jefferies, Darlithydd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe:

“Fel seicolegydd, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio ffyrdd o wella lles unigolion, cymunedau a’r amgylchedd. Yr hyn sy’n gyffrous yw bod yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar les yn ei ystyr ehangaf ac ar gyfer pawb. Mae’n cyfuno garddio, gwirfoddoli a swyddogaeth cymunedau ar-lein, ac mae’r cymysgedd hwnnw’n arbennig iawn. Byddwn hefyd yn gallu mesur lles dros dymor tyfu cyfan.”

Mwy o wybodaeth

Dim ond preswylwyr tir mawr y Deyrnas Unedig dros 18 oed sy’n cael cymryd rhan, ond does dim cyfyngiadau eraill ar y gwaith ymchwil hwn. Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 11 Ebrill 2021. Os byddwch yn cofrestru drwy’r post, cysylltwch â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin SA32 8HG.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf oherwydd Covid-19 y llynedd, tyfodd dros 1,600 o wirfoddolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru flodau gwyllt ar gyfer GIG Bae Abertawe i godi eu calonnau eu hunain ac i roi gwên ar wyneb y gymuned.

Rhannu'r stori