Yr Athro Mike McNamee

Mae'r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA) wedi cyhoeddi bod yr Athro Michael McNamee o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol WADA ar Foeseg.

Mae'r Grŵp Cynghori'n rhoi barn foesegol arbenigol annibynnol yn ôl yr angen drwy ystyried materion moesegol brys neu ddadleuol sy'n codi yn y frwydr yn erbyn camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon.

Athro Moeseg Gymhwysol yw Mike McNamee. Mae ganddo gefndir a chymwysterau deuol mewn athroniaeth a gwyddorau chwaraeon. Mae ef wedi cyhoeddi sawl llyfr, gan gynnwys Sports, Virtues and Vices (Routledge, 2008); Sport, Medicine, Ethics (Routledge, 2016); a Bioethics, Genetics, and Sport (Routledge, 2018). Mae'n ddeiliad cadair athro mewn moeseg yn KU Leuven yng Ngwlad Belg.

Mae'r Athro McNamee wedi cael ei benodi yn dilyn bron dau ddegawd o ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i faes atal camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon, gan gynnwys gradd meistr gyntaf y byd mewn Moeseg a Gonestrwydd Chwaraeon.

Meddai'r Athro Mike McNamee:

“Rwy'n falch o ddilyn gwaith gwych yr Athro Bartha Knoppers fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Foeseg, ac rwy'n gobeithio helpu’r grŵp i wasanaethu chwaraeon teg yn well.”

Mae'r Athro McNamee yn olynu'r Athro Bartha Knoppers – Cadeirydd Ymchwil Canada i'r Gyfraith a Meddygaeth; a Chyfarwyddwr Canolfan Genomeg a Pholisïau, Cyfadran Meddygaeth, Adran Geneteg Ddynol, Prifysgol McGill – sydd wedi camu o'r neilltu ar ôl 18 mlynedd ar y Grŵp Cynghori, gan gynnwys pum mlynedd fel ei Gadeirydd. 

Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol WADA, Olivier Niggli:

“Mae WADA yn croesawu'r Athro Michael McNamee fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Foeseg. Bydd profiad ac arbenigedd eang yr Athro McNamee ym maes moeseg sy'n ymwneud â pholisïau i atal camddefnyddio cyffuriau, ynghyd â chwaraeon, geneteg, ac ymchwil feddygol a gwyddonol, yn cynnig arweiniad gwerthfawr i'r asiantaeth. Rwyf hefyd am ddiolch i'r Cadeirydd ymadawol, Bartha Knoppers, sydd wedi rhoi cymorth mawr i WADA ers blynyddoedd lawer gyda'i hymroddiad a'i chraffter.”

Mae tîm rheoli WADA yn galw'r Grŵp Cynghori Arbenigol ar Foeseg, a ffurfiwyd yn 2004, ynghyd yn flynyddol. Yn ogystal â'r Athro McNamee, mae'r grŵp yn cynnwys yr aelodau canlynol ar hyn o bryd:

  • Dr Silvia Camporesi, yr Eidal/y Deyrnas Unedig
  • Yr Athro Timothy Caulfield, Canada
  • Yr Athro Sigmund Loland, Norwy
  • Ms. Andréanne Morin, Canada
  • Yr Athro Ambroise Wonkam, De Affrica

Mae'r Grŵp Cynghori'n ymwneud yn barhaus â thîm rheoli WADA yn benodol ynghylch meysydd profion, gwyddoniaeth, meddygaeth a materion cyfreithiol; a materion megis lleoliad athletwyr, cydsyniad i gynnal ymchwil, a mynediad at ddata pasbortau biolegol athletwyr. Mae'r grŵp yn barod i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a chanddynt oblygiadau moesegol posib sy'n dod i'r amlwg ynghylch atal camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon.

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff

Rhannu'r stori