Arolwg morwellt, Sir Benfro

Arolwg morwellt, Sir Benfro

Mae tîm o wyddonwyr cadwraeth, gan gynnwys 11 o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi canllaw arloesol i gefnogi ymdrechion i adfer gwelyau morwellt, sy'n dal mwy o garbon na choedwigoedd glaw.

Mae'r Seagrass Restoration Handbook, a gomisiynwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn llawn cyfarwyddyd ymarferol i awdurdodau lleol, partneriaethau cymunedol, elusennau a sefydliadau amgylcheddol sydd am adfer gwelyau morwellt yn y DU ac Iwerddon.

Yn ogystal â bod yn hanfodol i fioamrywiaeth, mae morwellt – yr unig blanhigyn yn y byd sy'n blodeuo o dan y dŵr – yn amsugno carbon deuocsid, sy'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, mae o leiaf 44 y cant o forwellt y DU wedi diflannu ers 1936, gan gynnwys 39 y cant yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, yn ôl ymchwil ddiweddar.

Mae morwellt, sy’n adnabyddus am lywio ecosystemau, yn creu cynefin ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt dyfrol arall, yn cysylltu mannau naturiol gwahanol, yn darparu gwasanaethau ecolegol megis storio carbon a nitrogen, ac yn gwella ansawdd dŵr.

Roedd arbenigwyr yn y biowyddorau o Brifysgol Abertawe'n rhan o'r tîm rhyngwladol a luniodd y llawlyfr, dan arweiniad Prifysgol Portsmouth a Chymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL).

Dyma aelodau'r tîm o Brifysgol Abertawe a gyfrannodd at y llawlyfr:

Prif awduron: Dr Richard Unsworth, Dr Chiara Bertelli, Sam Rees, Dr Hannah Nuuttila
Cyfranwyr: yr athro cysylltiol Jim Bull, Evie Furness, Lowri O’Neill
Graddedigion Abertawe/Project Seagrass: Eve Uncles, Issy Inman, Dr Richard Lilley, Ben Jones

Meddai Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe:

“Mae llawer o ardaloedd gweunwellt arfor wedi cael eu difrodi ym mhob rhan o'r DU. Gall y broses o'u hadfer gyfrannu at ymateb mawr ei angen i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth.

“Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn flaenllaw wrth arwain y broses o adfer morwellt a gwneud gwaith ymchwil at ddibenion cadwraeth ledled y DU mewn cydweithrediad â'i helusen cadwraeth forol ei hun, sef Project Seagrass.

“Mae creu'r llawlyfr hwn, gan gynnwys cyfraniadau gan lawer o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o Adran y Biowyddorau, yn deillio o bron degawd o ymchwil i forwellt gan Abertawe yn y DU ac yn fyd-eang.”

Meddai Dr Joanne Preston o Sefydliad Gwyddorau Môr Prifysgol Plymouth:

“Dyma'r amser i weithredu; ni allwn oedi mwyach cyn adfer ecosystemau morol y mae pobl yn dibynnu arnynt, er eu bod wedi eu dinistrio i raddau helaeth. Gobeithio y bydd y llawlyfr hwn yn ysbrydoli ac yn grymuso grwpiau ledled y DU a'r hwnt i gymryd rhan wrth adfer ecosystemau morwellt a'r fioamrywiaeth hyfryd sy'n gysylltiedig â hwy.”

Meddai Celine Gamble, Rheolwr Prosiect Adfer ZSL:

“Mae gwelyau morwellt yn gweithredu fel coedwigoedd cefnforol, ond gan eu bod allan o'r golwg, maent yn tueddu i gael eu diystyru – er eu bod yn hanfodol wrth liniaru newid yn yr hinsawdd a diogelu arfordiroedd, yn ogystal â bod yn gartref i gannoedd o rywogaethau morol.

“Ein gobaith yw y bydd cynghorau a grwpiau amgylcheddol a chymunedol ledled y DU ac Iwerddon yn defnyddio'r canllaw hwn i adfer gwelyau morwellt coll yn eu hardal, gan helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd a'r risgiau o lifogydd, a rhoi cartrefi i gannoedd o rywogaethau morol gwahanol.”

Meddai Tony Juniper, CBE a Chadeirydd Natural England:

“Mae gwelyau morwellt yn dal meintiau sylweddol o garbon a fyddai yn yr atmosffer fel arall. Maent hefyd yn helpu i liniaru effaith tywydd mwy eithafol a chynnydd yn lefel y môr, yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr â chadw gwely'r môr yn sefydlog. Ar ben hynny, mae gwelyau morwellt trwchus, gwyrddlas sy'n llawn bywyd yn rhoi cipolwg i ni ar fôr iach ac yn ein hysbrydoli i ddiogelu ein cefnforoedd.

“Er bod llawer o'n gwelyau morwellt bellach yn rhan o ardaloedd morol gwarchodedig, mae'n bwysig i ni fod yn fwy uchelgeisiol ac ymdrechu i’w hadfer yn ogystal â’u diogelu.”

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori