Graffigyn yn dangos lluniau o'r Athro Olek Zienkiewicz a'r Farwnes Brown. Darlith Zeinkiewicz 2021. Dydd Mercher 24ain Tachwedd am 4pm - Gweminar Zoom. Siaradwr gwardd, Y Farwnes Brown o Gaergrawnt, DBE FREng, Julia King.

Ddydd Mercher, 24 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz, a hynny am y pumed tro, yng nghwmni gwestai arbennig, sef y Farwnes Brown o Gaergrawnt DBE FREng FRS, Julia King.

Lansiwyd y gyfres er cof am yr Athro Olek Zienkiewicz, arbenigwr rhyngwladol ym maes mecaneg gyfrifiadol, a'r Dull Elfennau Cyfyngedig yn benodol.

Mae Darlith Zienkiewicz yn ddigwyddiad blynyddol am ddim sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr, o'r chweched dosbarth a'r brifysgol, a'r cyhoedd i ymgysylltu â siaradwr gwadd o fyd diwydiant.

Meddai'r Athro Perumal Nithiarasu, Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Pwyllgor Darlith Zienkiewicz: “Roedd gwaith arloesol yr Athro Olek Zienkiewicz yn gyfrifol am sefydlu Prifysgol Abertawe ymysg ceffylau blaen y byd ym maes mecaneg gyfrifiadol, ac mae'r bri hwnnw'n parhau hyd heddiw.

“Mae Darlith Zienkiewicz yn deyrnged briodol, sy'n croesawu ymchwilwyr a dylanwadwyr uchel eu parch ym meysydd amlddisgyblaethol gwyddoniaeth a pheirianneg i gyflwyno darlith gyhoeddus.

“Bydd y Farwnes Brown, sy'n uchel ei pharch fel peiriannydd a gwyddonydd ac sy'n ceisio dylanwadu ar newid yn yr hinsawdd, yn cyflwyno'r ddarlith eleni, sy'n hynod berthnasol i bob enaid byw ar y blaned.”

Mae'r Farwnes Brown, y prif siaradwr, yn beiriannydd o Brydain ac yn aelod di-blaid o Dŷ'r Arglwyddi, yn ogystal â bod yn gadeirydd presennol yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Gwnaeth y Farwnes Brown wasanaethu fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd (CCC) am fwy na 12 mlynedd ac mae hi'n dal i gadeirio ei Bwyllgor Ymaddasu.

Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr anweithredol y Banc Buddsoddi Gwyrdd gynt, hi oedd arweinydd adolygiad King o ddatgarboneiddio trafnidiaeth (2008) a Llysgennad Busnes Carbon Isel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am ddeng mlynedd tan 2019. Ar hyn o bryd, mae'r Farwnes Brown yn cynghori Llywodraeth y DU ar ei strategaeth hydrogen fel aelod o'i Chyngor Cynghorol ar Hydrogen.

O ganlyniad i'w diddordeb brwd mewn ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a'i liniaru, a'r economi carbon isel, bydd y Farwnes Brown yn cyflwyno darlith rithwir o'r enw ‘Cyflawni Sero-Net: yr heriau sydd o'n blaenau’.

Ar 27 Mehefin 2019, cymerodd Llywodraeth y DU y cam hanesyddol o wneud ymrwymiad cyfreithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 100% erbyn 2050 – sero-net.

Dyma'r addewid cyflymaf i roi argymhelliad gan y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd ar waith ers iddo gael ei greu o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn 2008, ond newid y ddeddfwriaeth yw'r rhan hawsaf. Bydd cyflwyno'r polisïau, y rheoliadau, y mecanweithiau cymorth a'r newidiadau mewn ymddygiad i gyflawni'r targed sero-net hwn yn fwy cymhleth.

Meddai'r Farwnes Brown: “Mae newid yn yr hinsawdd yn her i bawb, ac mae'n fraint bod Prifysgol Abertawe wedi gofyn i mi gyflwyno Darlith Zienkiewicz eleni ar y pwnc hollbwysig hwn.

“Rwy'n edrych ymlaen at drafod y rhesymeg dros lefel ac amserlen targed sero-net y DU, y ffordd y caiff y costau eu cyfrifo, a'r heriau rydym oll yn eu hwynebu er mwyn cyflawni’r targed dros y 30 mlynedd nesaf.”

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Mae'n bleser gennym groesawu ein siaradwr gwadd, y Farwnes Brown, sy'n eiriolwr brwd dros addysg, peirianneg, arloesi a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae'r digwyddiad rhithwir am ddim hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr, academyddion a'r cyhoedd ym mhedwar ban byd gymryd rhan yn y sgwrs bwysig hon.”

Cofrestrwch ar gyfer Darlith Zienkiewicz 2021.

Rhannu'r stori