Cyfarfod Data Aid: gwnaeth 25 o fyfyrwyr PhD, gan gynnwys naw o Brifysgol Abertawe, gydweithio â thair elusen o'r DU i ddatrys problemau data

Cyfarfod Data Aid: gwnaeth 25 o fyfyrwyr PhD, gan gynnwys naw o Brifysgol Abertawe, gydweithio â thair elusen o'r DU i ddatrys problemau data

Gwnaeth 25 o fyfyrwyr PhD, gan gynnwys naw o Brifysgol Abertawe, gydweithio â thair elusen o'r DU i ddatrys problemau data o’r byd go iawn yn ystod digwyddiad cyntaf y rhaglen DataAid. Yr elusennau dan sylw oedd y Sefydliad Masnach Deg, The Diana Award a Chance to Shine.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i elusennau feithrin dealltwriaeth newydd o'r data a gedwir ganddynt.

Daeth y myfyrwyr o ddwy ganolfan hyfforddiant doethurol a phum prifysgol yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

Cafodd y digwyddiad ei arwain a'i drefnu gan ddau fyfyriwr PhD o Brifysgol Bryste a gafodd eu hysbrydoli i ddefnyddio'r sgiliau a fagwyd yn ystod eu gyrfaoedd er mwyn helpu elusennau nid-er-elw. Hwn oedd eu profiad cyntaf o drefnu digwyddiad ar y raddfa hon, lle bu'n rhaid cydgysylltu adrannau cyfreithiol pob un o'r pum prifysgol â'r elusennau partner, gan sicrhau y cafodd data eu trosglwyddo a'u storio'n ddiogel, a gwneud gwaith hysbysebu, cynllunio a recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y digwyddiad.

Meddai'r Athro Simon Hands o Brifysgol Abertawe, ar ran y canolfannau hyfforddiant doethurol:

“Rydym wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau hyfforddi arbenigol yn y pum prifysgol: mae DataAid yn denu'r sylw gan mai myfyrwyr sy'n arwain y rhaglen, a chan ei bod hi wedi'i hysgogi gan ymdeimlad brwd o gyfrifoldeb cymdeithasol ar adeg anodd. Rydym yn falch iawn o'r llwyddiant sydd wedi deillio o egni ac arbenigedd ein myfyrwyr.”

Cafodd y digwyddiad ei gefnogi gan The Giving Department, ymgynghoriaeth sy'n cydweithio ag elusennau, partneriaid diwydiannol ac erbyn hyn academyddion er mwyn cysylltu arbenigedd meysydd gwahanol i newid ein cymdeithas. Ni fyddai'r digwyddiad wedi bod yn bosib heb gymorth Uwchgyfrifiadura Cymru, a sefydlodd y gweinydd o bell er mwyn storio data'n ddiogel ac a ddarparodd beirianwyr meddalwedd ymchwil yn y digwyddiad i roi help llaw i fyfyrwyr.

Yn ystod y digwyddiad, gwnaeth timau o ddadansoddwyr gwirfoddol weithio ar gyfres o gwestiynau a heriau gan yr elusennau partner, gan gyflwyno eu canfyddiadau mewn sesiwn i gloi'r digwyddiad ar gyfer yr holl gyfranogwyr.

Nod y digwyddiad oedd galluogi carfannau'r ddwy ganolfan hyfforddiant doethurol i rannu sgiliau a rhoi cyfle i'r myfyrwyr wella eu sgiliau cyfathrebu, arwain a thechnegol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddefnyddio problemau data o’r byd go iawn i ddysgu a datblygu sgiliau gwyddor data, yn ogystal â chynnig rhywfaint o seibiant rhag natur ynysig y cyfnod clo.

Dywedodd myfyrwyr fod eu hunan-barch a'u hyder wedi cael hwb a bod y profiad o helpu elusennau i ateb cwestiynau data wedi bod yn fuddiol.

Meddai Tonicha Crook o ganolfan hyfforddiant doethurol AIMLAC, myfyriwr cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Roedd yn anhygoel cael cyfle i roi'r gwersi a ddysgwyd gennym yn y brifysgol ar waith a helpu elusennau! Yn ogystal â gwella ein sgiliau presennol, rydym wedi datblygu ein sgiliau arwain, trefnu a chyfathrebu.”

Bydd y ddealltwriaeth sy'n deillio o'r digwyddiad yn helpu elusennau i wirio a chasglu data yn well, gan roi tystiolaeth feintiol i ategu eu gwaith.

Meddai Melda Kahraman o Chance to Shine:

“Mae Chance to Shine yn falch o gael cyfrannu at ddigwyddiad DataAid. Mae gennym lawer o ddata cyfoethog ond nid oes gennym yr arbenigedd na'r amser i archwilio ein data'n fanwl. Mae'r hyrwyddwyr data a wnaeth weithio ar ein data wedi defnyddio technegau gwahanol i roi dadansoddiadau manwl i ni, gan ystyried y gydberthynas rhwng newidynnau gwahanol megis rhywedd, oedran, lleoliadau prosiectau ac ati.

Ar ddiwedd y digwyddiad hwn, cawsom ddadansoddiadau a chanfyddiadau gwerthfawr iawn a fydd yn ategu rhai o'n cyflwyniadau mewn ceisiadau am gyllid neu ein negeseuon i gynulleidfaoedd ehangach. Drwy rai o'r dadansoddiadau, cawsom wybod am rai bylchau y mae angen i ni roi sylw iddynt wrth fonitro ein prosiectau. Yn gyffredinol, cawsom brofiad cadarnhaol iawn a chanfyddiadau buddiol.”

Cyfrifiadureg - Prifysgol Abertawe

Ffiseg - Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori