Teulu o ddellt 2D crwm.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi cyflwyno fframwaith i fesur priodoleddau materol dosbarth newydd o ddellt hecsagonol crwm dau ddimensiwn y gellid eu defnyddio wrth gynhyrchu metaddeunyddiau mecanyddol gwell at ddibenion biobeirianneg, electroneg estynadwy, lliniaru effaith gwrthdrawiadau, a robotiaid meddal.

Mae'r gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Composite Structures yn amlinellu sut gwnaeth y tîm ymchwil o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg y brifysgol arloesi'r fframwaith cyfrifiadau newydd, a adwaenir fel mynegiannau ffurf gaeëdig cyffredinol.

Meddai Dr Shuvajit Mukherjee, un o gyd-awduron yr astudiaeth:

“Mae'r papur hwn yn cyflwyno ymagweddau dadansoddol sylfaenol er mwyn darganfod y mynegiannau ffurf gaeëdig mwyaf cyffredinol o briodoleddau materol cyfatebol dellt hecsagonol 2D. Mae'r gwaith hwn yn dangos dosbarth geometreg mawr. Mae cyflwyno'r trawst crwm fel un o gyfansoddion cell uned y delltwaith yn cyfoethogi'r man dylunio ac yn gwella hyblygrwydd yr adeiledd."

Meddai'r Athro Sondipon Adhikari, un o'r cyd-awduron:

“Mae cyflwyno'r trawst crwm yng nghell uned y delltwaith yn cynyddu ei hyblygrwydd, yn ogystal ag ehangu'r man dylunio ar gyfer deunyddiau dellt. Gellir defnyddio'r mynegiant ffurf gaeëdig fel meincnod ar gyfer ymchwiliadau rhifiadol ac arbrofol yn y dyfodol. Gellir hefyd fanteisio arno er mwyn darganfod priodoleddau mecanyddol a ddiffinnir gan y defnyddiwr.”

Rhannu'r stori