Plant yn chwerthin wrth chwarae gyda’r teganau anwes Doti a Dewin mewn un o gylchoedd chwarae Mudiad Meithrin.

Llun: Mudiad Meithrin.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer PhD i ymchwilio i bwnc sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a’r cwricwlwm newydd ar ôl cais ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Mudiad Meithrin, elusen sy’n arbenigo ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Teitl y prosiect yw Dinasyddion ifainc Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog? Archwilio rôl Addysg Blynyddoedd Cynnar yn fframwaith Cwricwlwm Newydd Cymru, a bydd y ddoethuriaeth yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y Gymraeg a’r cwricwlwm newydd a fydd yn weithredol mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir o fis Medi 2022.

Meddai Dr Geraldine Lublin, arweinydd y tîm goruchwylio:

“Mae dyfodiad y cwricwlwm newydd yn gyffrous iawn ac rydym yn gobeithio bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at wireddu uchelgais yr amcanion a osodir yno. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus ynghyd â gweddill y tîm, sef Dr Alex Lovell o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, Dr Mirain Rhys o Adran Seicoleg Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Dr Gwenllian Lansdown Davies o Mudiad Meithrin.”

Mae’r cwricwlwm newydd yn dwyn ynghyd dysgu ac addysgu ieithoedd mewn un maes dysgu a phrofiad, gan annog darparwyr i ‘alluogi dysgwyr i ddod yn amlieithog, gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol a datblygu meddwl agored a chwilfrydedd tuag at holl ieithoedd a diwylliannau y byd’. O ystyried y nod o gyfrif miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni ellir gwadu rôl hollbwysig addysg blynyddoedd cynnar wrth ddarparu sylfaen gadarn yn y continwwm dysgu 3 i 16. Rhagwelir y bydd canlyniadau’r prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o sut y gellir annog dysgwyr ifanc o gefndiroedd cymdeithasol ac ethnig amrywiol i ddysgu iaith neu ieithoedd ychwanegol ar sail eu dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

Prin yw’r gwaith ymchwil ym maes y blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg felly mae’n wych y bydd gennym gyfle i ddysgu oddi ar ganfyddiadau gwaith ymchwil doethuriaeth. Mae’n amserol oherwydd bod cyfnod o newid mawr gyda’r cwricwlwm newydd i Gymru ar y gorwel. Mae Cylchoedd Meithrin eisoes yn paratoi at y newid hwn a bydd ymchwilio i ddylanwad hynny ar ein dysgwyr ieuengaf yn gyfraniad pwysig i ddysg a datblygiad polisi.

Rhannu'r stori