The heads of statues in a store room

Ym mis Mehefin 2020, gwnaeth protestwyr ddymchwel cerflun o'r caethfasnachwr Edward Colston o'i blinth ym Mryste, gan ysgogi trafodaethau am gerfluniau dadleuol a gafodd gryn sylw yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd. Flwyddyn yn ddiweddarach, y materion hynny fydd prif destun cynhadledd ryngwladol fawr sydd wedi cael ei threfnu gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar 28 a 29 Mehefin, bydd Prifysgol Abertawe'n croesawu ymchwilwyr o bedwar ban byd i gynhadledd o'r enw ‘Contested Histories: Creating and Critiquing Public Monuments and Memorials in a New Age of Iconoclasm’. Yn ogystal â thrafod hanes cerfluniau a chofebion, bydd y gynhadledd yn gofyn cwestiynau am ystyr y digwyddiadau yn 2020 wrth edrych tuag at y dyfodol. Beth yw diben cerfluniau a chofebion mewn cymdeithas fodern a beth maent yn ei ddatgelu, neu'n ei guddio, am ein gorffennol?

Bydd y gynhadledd yn croesawu 180 o gynrychiolwyr o fwy nag 20 o genhedloedd, gan gynnwys Awstralia, Tsieina, Chile, America, Japan a sawl gwlad yn Ewrop.

Bydd y gynhadledd yn cyflwyno mwy na 40 o sgyrsiau gan academyddion rhyngwladol ar bynciau megis:

  • Cynrychiolaeth menywod mewn cerfluniau
  • Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau ac etifeddiaeth caethwasiaeth
  • Dyfodol cerfluniau
  • Cofebion rhyfel yng Nghymru, Croatia, Gwlad Belg a'r Eidal
  • Astudiaethau achos cerfluniau o Dwrci, Israel, yr Unol Daleithiau, India, yr Eidal, Sweden, Cyprus a gwledydd eraill
  • Achosion o ddymchwel cerfluniau yn y gorffennol pell

Bydd y siaradwyr academaidd yn meddu ar arbenigedd mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys hanes, pensaernïaeth, hanes celf, treftadaeth, athroniaeth, cymdeithaseg, gwyddoniaeth wleidyddol ac anthropoleg.

Meddai Dr Simon John, Uwch-ddarlithydd Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Abertawe a chyd-drefnydd y gynhadledd: “Un o brif nodau'r gynhadledd hon yw archwilio sut mae cymdeithasau ar adegau gwahanol yn y gorffennol ac mewn lleoliadau gwahanol ledled y byd wedi mynd ati i greu, newid a dinistrio cofebion. Bydd ein trafodaethau'n dangos y gall safbwynt hanesyddol fod yn hollbwysig yng nghyd-destun y trafodaethau byw difrifol am gofebion dadleuol sy'n mynd rhagddynt ledled y byd heddiw.”

 Bydd y gynhadledd yn fwy na sgwrs rhwng academyddion yn unig. Bydd pobl sy'n cymryd rhan yn rhagweithiol mewn ymgyrchoedd o fathau gwahanol yn chwarae rôl allweddol. Bydd y cynrychiolwyr yn clywed gan ymgyrchwyr sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gerfluniau dadleuol. Bydd y siaradwyr hefyd yn trafod eu hymdrechion i godi cerfluniau newydd er cof am bobl sydd wedi cael eu diystyru'n hanesyddol. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn clywed gan artistiaid sy'n ymgymryd â'r dasg heriol o bortreadu hanesion cymhleth mewn modd artistig.

Meddai Dr Tomás Irish, Uwch-ddarlithydd Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe a chyd-drefnydd y gynhadledd: “Mae'r gynhadledd hon yn dangos bod Prifysgol Abertawe, ac aelodau'r Grŵp Ymchwil Gwrthdaro, Ailadeiladu a Chofio, wrth wraidd ymchwil flaengar i rai o'r materion cyfoes mwyaf difrifol yng Nghymru a'r byd ehangach. Mae'n destun cyffro ein bod yn cynnal y digwyddiad pwysig hwn, a fydd yn rhoi cyfle i ni glywed gan amrywiaeth eang o arbenigwyr rhyngwladol, yn ogystal â thynnu sylw at ein hymchwil ddeinamig yn y maes hwn.”

Rhannu'r stori