Myfyriwr meddygaeth yn gwisgo côt wen yn edrych ar ddelweddau sganiau ar flwch golau

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i gynnig lleoedd ychwanegol ar ei rhaglen Meddygaeth i Raddedigion fel rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru.

Mae'r 25 o leoedd ychwanegol eisoes wedi cael eu llenwi, gan gynyddu cyfanswm y garfan o fyfyrwyr newydd yn eu blwyddyn gyntaf i 125.

Mae rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Prifysgol Abertawe'n cynnig y llwybr cyflymaf o ran hyfforddi meddygon yng Nghymru, gyda myfyrwyr yn graddio ymhen pedair blynedd ar ôl dilyn cwricwlwm sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion a’r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i feddygon.

Mae'r rhaglen flaengar hon wedi sicrhau bod yr Ysgol Feddygaeth ar frig rhestr The Complete University Guide 2022, yn ogystal â bod ymysg 10 uchaf y DU mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau annibynnol eraill.

Dywedodd yr Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe, ei bod hi'n falch bod y niferoedd wedi cynyddu.

Meddai: “Gan fod prinder meddygon yng Nghymru o hyd, bydd y gweithlu meddygol yn croesawu'r hwb hwn dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae ein ffigurau'n dangos bod 69 y cant o'r myfyrwyr rydym wedi'u derbyn eleni'n dod o Gymru, ac rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau eu hastudiaethau meddygol ac yn penderfynu aros yng Nghymru yn ystod eu gyrfaoedd proffesiynol.”

Datgelwyd lleoedd ychwanegol Abertawe gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wrth iddi hefyd gyhoeddi camau tuag at sefydlu ysgol feddygaeth yng ngogledd Cymru.

Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio cwrs gradd meddygaeth yn ei gyfanrwydd yng ngogledd Cymru, gyda mwy o bwyslais ar feddygaeth gymunedol ac amrywiaeth eang o leoliadau gwaith, gan gynnwys blwyddyn gyfan mewn meddygfa.

Gwnaeth yr Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd, groesawu'r buddsoddiad yn nyfodol gweithlu iechyd Cymru.

Meddai: “Mae'n galonogol iawn gweld y pwyslais sy'n cael ei roi ar hyfforddi meddygon y dyfodol yma yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd cynnig profiadau addysgu o'r radd flaenaf, a hyfforddiant unigryw, yn eu hannog i ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.

“Rydym yn falch bod y myfyrwyr ychwanegol ar y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn cael cyfle i ymuno â ni yn Abertawe ac rydym yn credu bod y cynnydd hwn o ran niferoedd yn cadarnhau cryfder ein rhaglen.”

Rhannu'r stori