Rhybudd am effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc

Mae cyfyngiadau'r pandemig yn gwaethygu'r sbardunau ar gyfer hunan-niweidio ac iechyd meddwl gwael, yn ôl arbenigwyr. 

Maent bellach wedi cyflwyno rhybudd clir am effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Yn ôl yr Athro Tamsin Ford, o Brifysgol Caergrawnt, a'i chydweithwyr, gan gynnwys yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ceir y gwaethygiad amlycaf mewn teuluoedd a oedd eisoes yn cael problemau.

Gan ysgrifennu yn The BMJ, maent yn galw am gamau gweithredu brys “i sicrhau na fydd y genhedlaeth hon dan anfantais anghymesur o ganlyniad i Covid-19”.

Maent yn cyfeirio at y dystiolaeth bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc y DU yn gwaethygu cyn y pandemig, a bod y canlyniadau o ran iechyd, addysg ac o safbwynt cymdeithasol yn waeth i blant sy'n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl yn yr 21ain ganrif na'r sefyllfa ar ddiwedd y 20fed ganrif.

Er enghraifft, rhwng 2004 a 2007, cynyddodd gorbryder, iselder a hunan-niweidio, yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau.

Meddai'r Athro John: “Mae anhwylderau iechyd meddwl yn ystod plentyndod yn fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd i bobl pan fyddant yn oedolion ac maent yn lleihau'r gallu i ddysgu a chyflawni yn yr ysgol.

“Mae angen i ni weithio gyda phlant a'u gofalwyr a throstynt hwy er mwyn lliniaru effaith y pandemig, a chydnabod na fydd y pandemig yn effeithio'n gyfartal ar ein plant.

“Mae angen i ni sicrhau mynediad at y gwasanaethau priodol a hyrwyddo lles a chysylltiadau cymdeithasol mewn ysgolion, yn ogystal â cheisio ymdrin â'r pethau ehangach sy'n effeithio ar iechyd meddwl megis tlodi.”

Mae astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod y pandemig yn awgrymu bod rhai teuluoedd yn ymdopi'n dda, ond bod eraill yn wynebu adfyd ariannol, yn cael problemau wrth addysgu plant gartref, ac yn profi cylchoedd cythreulig pan fydd straen a gofid yn cynyddu.

Cynyddodd canran anhwylderau iechyd meddwl tebygol o 11 y cant yn 2017 i 16 y cant ym mis Gorffennaf 2020 ym mhob grŵp oedran, rhyw ac ethnigrwydd, yn ôl arolwg Lloegr o iechyd meddwl plant a phobl ifanc (MHCYP).

Yn ogystal, adroddodd sampl o 2,673 o rieni a gafodd eu recriwtio drwy gyfryngau cymdeithasol fod problemau iechyd meddwl ac ymddygiad wedi cynyddu ymhlith plant rhwng 4 ac 11 oed rhwng mis Mawrth a mis Mai 2020 (yn ystod y cyfyngiadau symud), er bod llai o symptomau emosiynol ymhlith plant rhwng 11 ac 16 oed.

Roedd iechyd meddwl ymatebwyr mwy difreintiedig yn gymdeithasol-economaidd yn waeth, a hynny'n gyson, yn y ddau arolwg, yn ôl yr awduron – rhybudd clir gan fod disgwyl i ddirwasgiad economaidd gynyddu nifer y teuluoedd dan straen ariannol.

Mae Ford a'i chydweithwyr yn dadlau bod canlyniadau'r pandemig yn digwydd “yn erbyn cefndir o bryderon hirdymor am ddirywiad o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac annigonolrwydd y gwasanaethau a ddarperir.”

Mae'r effeithiau hirdymor yn dal i fod yn ansicr: “Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw y tarfwyd ar addysg a bod llawer o bobl ifanc bellach yn wynebu dyfodol ansicr.”

Darllenwch yr erthygl Mental health of children and young people during pandemic yn llawn.

Rhannu'r stori