Fideo blaengar newydd i addysgu plant am bysgod sy'n mudo

Mae tîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi creu ffordd wahanol o addysgu pobl ifanc am bysgod sy'n mudo. 

Gwnaeth y tîm greu fideo comig a cherdd difyr sy’n cynnwys telyneg yn olrhain taith pysgodyn, sydd wedi bod yn boblogaidd ymhlith academyddion eraill yn ogystal â phobl ifanc.

Erbyn hyn, mae papur sy'n amlinellu'r prosiect ar gyfer plant rhwng wyth a 14 oed wedi denu sylw fel un o benawdau ymchwil y cyhoeddwr Wiley y mis hwn, yn ogystal ag ymddangos yn y cyfnodolyn ar-lein uchel ei fri People and Nature.

Mae Merryn Thomas, y prif awdur, yn rhan o Labordy Ymchwil Ryngddisgyblaethol ac Ymgysylltu o ran Dŵr Croyw (FIRE Lab) y Brifysgol, sy'n archwilio perthnasoedd pobl ifanc ag amgylcheddau dŵr croyw.

Mae poblogaethau pysgod mudol yn lleihau dan bwysau ffactorau megis newid yn yr hinsawdd, llygredd a rhaniadau sy'n deillio o argaeau ac adeileddau eraill, felly roedd y tîm am ddod o hyd i ffordd effeithiol o ennyn diddordeb pobl mewn pwnc amgylcheddol cymhleth ac anodd ei weld.

Bu Dr Thomas a'i chydweithwyr Stephanie Januchowski-Hartley, Daphne Giannoulatou a Peter Jones yn gweithio ar y prosiect gyda'r cartwnydd o America Ethan Kocak ynghyd â Wes Tank a Ryan Sarnowski, o TankThink, tîm cynhyrchu creadigol yn Milwaukee.

Nod y cynnyrch gorffenedig yw cyfoethogi'r broses o ddysgu am bysgod mudol ac amgylcheddau dyfrol yn ogystal â diddanu pobl ac ennyn diddordeb yn y maes.

Meddai Dr Thomas: “Rydym yn frwd iawn dros ddŵr croyw yma yn FIRE Lab. Roeddem am esbonio pysgod sy'n mudo, a hynny mewn modd addysgol ac addysgiadol, ac rydym yn meddwl y gwnaethom lwyddo yn hyn o beth drwy ein cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ag academyddion a phobl greadigol frwd.

“Gwnaethom hefyd ddysgu am gyd-greu wrth i'r gwaith fynd rhagddo ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i bobl eraill sydd â diddordeb mewn cydweithredu ar draws ffiniau i lunio deunyddiau ysbrydoledig i ennyn brwdfrydedd pobl ifanc dros ein hamgylcheddau naturiol.”

Yn eu papur, gwnaeth aelodau'r tîm amlinellu'r broses greadigol y tu ôl i'r fideo, gan gynnwys bathu syniadau, cyfansoddi'r gerdd, gwirio ffeithiau a datblygu'r stori, yn ogystal â chrybwyll effaith Covid-19 ar y cydweithrediad.

Mae'r awduron bellach yn gobeithio y bydd rhannu eu profiadau a'u myfyrdodau'n ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig i'r rhai sydd am greu deunyddiau eraill am brosesau ecolegol a materion amgylcheddol i bobl ifanc. Maent hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio Shout Trout fel rhan o waith ehangach i ennyn diddordeb plant ysgolion lleol mewn dŵr croyw yn 2022.

 

Rhannu'r stori