Grŵp o bum plentyn ifanc mewn gwisg ffansi yn eistedd ar garped yn chwarae ac yn chwerthin gyda'i gilydd.

Mae cyfyngiadau'r pandemig wedi amharu ar addysg a gweithgarwch corfforol pobl ifanc, ynghyd â'u cyfleoedd i gymdeithasu, er mai hwy sy'n wynebu'r perygl lleiaf o gael eu heintio â Covid-19 a dioddef yr effeithiau iechyd negyddol, yn ôl y sôn.

Roedd yr effaith ar eu lles yn dibynnu'n fawr ar rywedd, ethnigrwydd ac amddifadedd, yn ôl gwaith ymchwil newydd a wnaeth arolygu profiadau pobl ifanc. 

Casglwyd yr wybodaeth gan ymchwilwyr gwyddor data poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe dros bum mis o fis Medi 2020, sef cyfnod a oedd yn cynnwys achosion o gau ysgolion. 

Eu nod oedd archwilio dangosyddion lles ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod argyfwng Covid-19 er mwyn rhoi argymhellion a oedd yn ymestyn o ysgolion cynradd i addysg uwch. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ysgolion ailagor ac i'r cyfyngiadau symud gael eu hymlacio. 

Mynegodd y plant ifancaf fod angen iddynt chwarae a gweld eu ffrindiau; ar y llaw arall, gofynnodd y plant a'r bobl ifanc hynaf am fwy o gymorth i ymdrin â gorbryder a phwysau addysgol. 

Hwyluswyd y broses o gasglu'r data gan y Rhwydwaith Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd (HAPPEN), gan ddefnyddio'r arolwg HAPPEN At Home a'r arolwg gan Ganolfan Iechyd y Boblogaeth ynghylch Covid-19 a phobl ifanc.   

Gwnaeth y ddau arolwg gofnodi ymddygiadau iechyd nodweddiadol plant a phobl ifanc rhwng wyth oed a 25 oed. At ei gilydd, cafwyd 6,291 o ymatebion gan 81 o sefydliadau addysg ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â dosbarthiadau chwech, colegau a phrifysgolion. 

Dangosodd y canlyniadau fod lles disgyblion cynradd a bechgyn yn well na lles disgyblion uwchradd, merched a'r rhai yr oedd yn well ganddynt beidio â nodi rhywedd.  

Mae canfyddiadau'r tîm yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac maent wedi cael eu cyhoeddi ar ffurf rhagargraffiad gan MedRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ar faterion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*rhagor o wybodaeth isod)

Roedd lles disgyblion cynradd yn well ymhlith y rhai a oedd yn chwarae gyda ffrindiau, yn byw mewn ardaloedd mwy breintiedig ac yn cael rhagor o gwsg. Roedd gorbryder yn effeithio'n fwy ar ddisgyblion uwchradd, merched a disgyblion o ethnigrwydd cymysg. 

Dywedodd plant yr hoffent gael chwarae gyda'u ffrindiau'n fwy, gan ddangos pam mae'n hollbwysig cadw cyfleoedd i chwarae, cymdeithasu a bod yn brysur er mwyn peidio ag ychwanegu at anghydraddoldebau, ynghyd â sicrhau bod lles yn dal i gael ei flaenoriaethu.

Meddai Dr Michaela James, o Ganolfan Iechyd y Boblogaeth: “Mae'n hanfodol bod sefydliadau addysg yn cydnabod pwysigrwydd lles eu myfyrwyr ac yn blaenoriaethu eu dymuniadau a'u hanghenion yn hytrach na chanolbwyntio ar adennill tir o ran addysg a phwysau asesu.

“Mae'n amlwg bod pobl ifanc am fod yng nghwmni eu ffrindiau, chwarae a chadw'n brysur, yn ogystal â chael mynediad gwell at gymorth iechyd meddwl, ac mae angen i ni ddiogelu'r cyfleoedd hyn.” 

O ganlyniad i orbryder a phwysau i lwyddo wrth ddysgu ar-lein, mae angen rhagor o gymorth iechyd meddwl ar blant hŷn. 

Dywedodd y tîm ei bod hi'n amlwg bod dysgu ar-lein yn destun pryder i ddisgyblion uwchradd, felly mae angen sicrhau bod y broses o ddychwelyd i'r ysgol i gael addysg wyneb yn wyneb yn un hwylus, gan gael gwared ar y pwysau sy'n gysylltiedig ag asesiadau a chyrhaeddiad, a chanolbwyntio ar flaenoriaethu lles a hybu rhagolygon. 

Dyma rai o'r ymatebion a nodwyd:

“Mae'r sefyllfa o ran arholiadau'n destun pryder mawr i bawb ar hyn o bryd, gan nad oes eglurder nac atebion ...”

“Mae gweithio ar-lein yn llai effeithiol o lawer na dysgu wyneb yn wyneb.”

“Mae'n anodd iawn i mi ddysgu o bell.”

Mae'r tîm yn credu y gallai cydnabyddiaeth a chymorth fod yn amhrisiadwy er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag dioddef effeithiau hirdymor, yn ogystal â nodi argymhellion y gellir eu rhoi ar waith os ceir cyfyngiadau symud yn y dyfodol. 

Ychwanegodd Dr James: “Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth, mae'n bwysig bod lles yn uchel ar yr agenda a'n bod ni'n nodi'r ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl ifanc o oedrannau gwahanol.”

 *Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig

Rhannu'r stori