Cynrychiolwyr Vindico (o'r chwith i'r dde, Jo Polson, y Rheolwr Gyfarwyddwr, a Ryan Griffiths, y Cyfarwyddwr Technegol) a Boris Johnson, y Prif Weinidog, yn ystod digwyddiad lansio Together for Our Planet. Sam Lewis, un o fyfyrwyr PhD Prifysgol Abertawe.

Ar 4 Mehefin 2021, gwnaeth yr arbenigwyr technoleg o Lanelli Vindico ICS Ltd gynrychioli busnesau bach yn Stryd Downing i lansio Together for Our Planet, ymgyrch genedlaethol a gyflwynir ledled y DU yn ystod y cyfnod cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) ym mis Tachwedd.

Gwnaeth Vindico gyflwyno Think Air, y rhwydwaith anllywodraethol mwyaf cynhwysfawr ledled y DU sy'n monitro ac yn mesur ansawdd aer drwy ddata byw.

Mae Think Air yn gam hanfodol tuag at ddeall a rheoli llygredd aer – ac effaith PM2.5 (gronynnau aer bach), carbon deuocsid a llygryddion aer eraill – ar iechyd a lles y cyhoedd.

Gwnaeth Vindico ddatblygu Think Air mewn partneriaeth â'r Athro Emeritws Paul Lewis a Sam Lewis, myfyriwr PhD o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe a derbynnydd Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS).

Meddai Sam: “Mae ymgymryd â'r prosiect hwn wedi bod yn fraint wirioneddol. Mae gweld eich prototeip yn tyfu i fod yn gynnyrch terfynol yn fuddiol iawn ynddo ei hun ond, yn ddiamau, mae gweld y syniad hwnnw'n cael ei gydnabod a'i ddefnyddio fel enghraifft ar gyfer menter yn y dyfodol gan y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr effaith y gallwn ei chael yma fel staff, myfyrwyr a chwmnïau cysylltiedig. Rwy'n hynod falch.”

Yn dilyn misoedd o waith ymchwil a datblygu, gwnaeth Vindico ddefnyddio'r digwyddiad lansio yn Stryd Downing i ddadorchuddio cynnyrch nesaf Think Air, TASK (Pecyn Ysgolion Think Air).

Oherwydd cyfraniad canolog ei PhD, roedd Sam wrth wraidd y broses o ysgogi datblygiad y fenter arloesol hon yn unol â chwricwla presennol Cymru a Lloegr.

Mae'r cynnyrch addysgol hwn wedi cael ei ddylunio ar gyfer plant rhwng naw ac 11 oed i'w adeiladu a'i godio er mwyn mesur ansawdd yr aer o'u cwmpas – yn yr ysgol, gartref ac wrth gymudo bob dydd. 

Meddai'r Athro Cysylltiol Dr Frederic Boy, goruchwyliwr academaidd Sam yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'n gydnabyddiaeth wych bod gwaith PhD Sam wedi cael ei ddangos yn Stryd Downing yn ystod lansiad swyddogol cynhadledd COP26.

“Mae'n dangos gwerth mawr y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth â chwmnïau technoleg megis Vindico, sy'n ymwneud yn bennaf â dod o hyd i atebion blaengar i un o'r heriau byd-eang presennol, sef rheoli llygredd aer.

“Yn ddiau, bydd atebion Vindico drwy waith ymchwil a datblygu PhD Sam yn chwarae rôl sylweddol wrth ddylunio systemau rheoli ansawdd aer byw a fydd o fudd i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.”

Rhannu'r stori