Darlithydd yn cael ei enwi'n athro biowyddorau addysg uwch gorau'r DU

Mae academydd o Brifysgol Abertawe a wnaeth helpu i arloesi ffyrdd o ennyn brwdfrydedd wrth addysgu gwyddoniaeth o bell yn ystod y pandemig wedi cael ei anrhydeddu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Mae Dr Nigel Francis, athro cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi cael ei enwi'n athro biowyddorau addysg uwch gorau'r flwyddyn ar gyfer 2021.

Bob blwyddyn, defnyddir y wobr uchel ei bri i nodi athrawon biowyddorau gorau'r wlad ym maes addysg uwch a chydnabod unigolion rhagorol sy'n mabwysiadu dulliau addysgu arloesol.

Mae Dr Francis wedi ennill gwobr goffa Ed Wood, sy'n werth £1,000, llyfrau Gwasg Prifysgol Rhydychen gwerth £250, ac aelodaeth o'r gymdeithas am ddim am flwyddyn.

Meddai: “Roedd hyd yn oed cyrraedd y rhestr fer yn anhygoel, ond roedd ennill y wobr yn deimlad gwirioneddol emosiynol.”

Mae pwyslais addysgu Dr Francis ar imiwnoleg a magu sgiliau graddedig ym mhob blwyddyn y rhaglenni israddedig.

Er mwyn cadw brwdfrydedd ei fyfyrwyr a sicrhau eu bod yn parhau i ddysgu mewn amgylchiadau digynsail, gwnaeth helpu i sefydlu #DryLabsRealScience – rhwydwaith cydweithredu ar-lein ar gyfer addysg yn y gwyddorau bywyd. Ei nod yw datrys problemau addysgu mewn labordy a gwneud prosiectau ymchwil o bell drwy weminarau, canllawiau ar-lein, adnoddau addysgu a dolenni.

Meddai: “Bu'r rhwydwaith #DryLabsRealScience yn brosiect gwych i gael cymryd rhan ynddo ac, i mi, dyma uchafbwynt blwyddyn heriol i addysgwyr ym maes addysg uwch.”

Roedd ei ddefnydd o fideos er mwyn atgyfnerthu sgiliau dysgu a brwdfrydedd myfyrwyr wrth addysgu mewn labordy wedi creu argraff ar feirniaid y wobr.

Mae Dr Francis yn gymrawd yn y Gymdeithas Fioleg Frenhinol ac yn uwch-gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch. Yn 2020, enillodd wobr rhagoriaeth addysgu Cymdeithas Imiwnoleg Prydain ac mae ef wedi derbyn gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe.

Meddai: “Rwy'n credu bod yn rhaid ennyn brwdfrydedd myfyrwyr dros eu deunydd dysgu er mwyn iddynt wneud y mwyaf o'u haddysg.

“I mi, mae hyn yn golygu cynnig y cyfle i fyfyrwyr fwrw golwg dros adnoddau yn eu hamser eu hunain a chreu amgylchedd lle cânt eu hannog i arbrofi, herio rhagdybiaethau a pheidio â phoeni am wneud camgymeriad, sef y peth pwysicaf oll.”

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'n wych bod dulliau arloesol a brwdfrydedd Nigel dros ei bwnc wedi cael eu cydnabod drwy'r wobr hon. Rydym yn falch iawn o'r gwaith a wnaeth i sicrhau bod ein myfyrwyr wedi parhau i gael eu haddysgu'n ystyrlon yn ystod y flwyddyn heriol hon.”

Rhannu'r stori