Myfyrwyr yn mwynhau eu hunain yn creu tirffurfiau yn y blwch tywod realiti estynedig.

Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe wedi croesawu'r ysgol gyntaf i ymweld â'i lleoliad arddangos newydd yng nghanol y ddinas.

Gwnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff greu arddangosyn cyntaf Oriel Science, Journey, diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chymorth Canolfan Astudiaethau Ymfudo Prifysgol Abertawe. 

Gan fod Ysgol San Joseff wedi cyfrannu at yr arddangosfa, roedd yn deilwng mai hi oedd yr ysgol gyntaf i archwilio'r lleoliad newydd ddydd Llun 7 Mehefin.

Wrth ymchwilio i dreftadaeth yr ysgol, y gymuned leol a'r gadeirlan, gwelodd Ysgol San Joseff fod y tair ohonynt yn dyddio yn ôl i'r 1850au ar ôl i fewnfudwyr o Iwerddon ymgartrefu yng Nghymru.

Oherwydd ei hanes a'i statws fel yr unig ysgol noddfa yn Abertawe, mae Ysgol San Joseff yn ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc sy'n ceisio lloches yn y DU.

Mae ei disgyblion yn hanu o amrywiaeth eang o gefndiroedd moesegol a diwylliannol, a gyflwynodd gyfle gwych iddynt weithio gydag ysgolheigion sy’n ymdrin â mudo, gan gynnwys yr Athro Sergei Shubin a'r artistiaid Bill Taylor-Beales, Rachel Taylor-Beales a Mandy Lane. Yn gyffrous, gwnaeth y cydweithrediad hwn arwain at ddau ddarn o waith celf – Cast Hands a Living Bricks.

Yn ystod eu hymweliad, gwelodd y disgyblion arddangosfa o ddwylo mewn cast plastr yn dal ei gilydd ar wely tywod, arddangosyn sy'n symboleiddio undod a fu i'w weld yn Oriel Tate Modern yn Llundain o'r blaen.

Mae'r ail ddarn yn cynnwys geiriau a dyfyniadau wedi'u hysgythru ar frics, gan adlewyrchu'r pethau pwysicaf am “noddfa” yn ôl disgyblion Ysgol San Joseff a'u teuluoedd.

Mae'r ysgythriadau hyn hefyd wedi ysbrydoli disgyblion Ysgol San Joseff a Bill Taylor-Beales i ysgrifennu cân ar y cyd. Cafodd ei recordio yng Nghadeirlan Abertawe, eglwys a adeiladwyd gan rai o'r mewnfudwyr cyntaf o Iwerddon i Abertawe.

I gwblhau eu hymweliad ag Oriel Science, gwnaeth y plant greu tirffurfiau yn y blwch tywod realiti estynedig, mynd ar gefn beic wedi'i deilwra i greu hydrogen, a chymryd troeon yn gyrru efelychydd car rasio Prifysgol Abertawe.

Meddai Tanya Foxall, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Oriel Science: “Roedd hi'n bleser croesawu grŵp Blwyddyn 5 mor dda o Ysgol San Joseff i Oriel Science fel yr ysgol gyntaf i ymweld â ni, a chael cyfle i ddiolch iddynt am eu cyfraniad at ein harddangosfa Symud a Mudiant.”

Meddai Sergei Shubin, Athro Daearyddiaeth Ddynol a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Ymfudo Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch o gael cydweithredu ag Ysgol San Joseff fel rhan o'n cais i fod yn brifysgol noddfa.”

“Mae cydweithio'n greadigol â chymunedau lleol yn ategu ein hymrwymiad ehangach i feithrin diwylliant croesawgar yn Abertawe, sy'n cysylltu â PERCEPTIONS, ein prosiect drwy Horizon2020 a ariennir gan yr UE, sy'n archwilio'r ffordd y mae pobl sydd wedi mudo i Gymru yn gweld Ewrop a'r UE.”

Meddai Cerian Appleby, Arweinydd Celfyddydau Mynegiannol ac athro Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff: “Roedd hi'n hyfryd gweld ein plant yn cael y cyfle i ryngweithio â'r arddangosion yn Oriel Science.

“Roedd y car wedi'i bweru gan hydrogen yn destun cyffro i'r plant, a wnaeth ddysgu sut i brofi cof cranc, yn ogystal â lled adenydd condor. Roedd y profiad ymarferol yn fêl ar eu bysedd ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd!

“Roeddent hefyd yn hynod falch o weld eu gwaith yn cael ei arddangos ac yn mwynhau'r cyfle i archwilio rhagdybiaethau am fudo a theithio a delweddau newidiol o Ewrop, gyda'r Athro Sergei Shubin o'r Ganolfan Astudiaethau Ymfudo. Roedd y profiad yn wych i'n disgyblion, yn enwedig ar ôl y cyfyngiadau diweddar.

“Fel yr ysgol noddfa gyntaf yn Abertawe, mae'n bwysig i ni weithio gyda phobl eraill i feithrin diwylliant croesawgar, yn enwedig ar gyfer unigolion sy'n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth.”

Mae Oriel Science ar agor i'r cyhoedd bob penwythnos, ar wyliau banc ac yn ystod gwyliau'r ysgol o 10am i 4pm yn 21-22 Stryd y Castell (o fewn munud i Sgwâr y Castell ar gerdded) a cheir mynediad am ddim. Gellir archebu tocynnau yn: Swan.ac/LleoliadOrielScience.

Rhannu'r stori