Alpha Evans

Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyntaf, sy’n werth £3,000.

Graddiodd Alpha, 21, o Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn gynharach eleni, a’i bwriad yw defnyddio’r ysgoloriaeth i gyflawni ymchwil ôl-radd a fydd yn archwilio diwylliant, iaith a gweithrediadau cyfreithiol tref Abertawe a Sir Forgannwg rhwng 1870 a 1914.

Mae’r cyfnod hwn yn arwyddocaol yn natblygiad porthladd Abertawe fel canolfan ddiwydiannol a welodd dwf sylweddol yn ei phoblogaeth a newidiadau cymdeithasol-ieithyddol. Roedd traean o boblogaeth tref Abertawe a’r cylch yn siarad Cymraeg ym 1891, ond roedd yn gyfnod o newid diwylliannol-ieithyddol, a bwriad Alpha yw dadansoddi’r newid hwn trwy gyfrwng ffynonellau cyfreithiol.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyda chymorth cyfraniad ariannol gan gwmni cyfryngau Tinopolis Cymru ynghyd â chefnogwyr a chyfeillion Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, a’i nod yw cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes sy’n ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi at ddysg a diwylliant Cymru.

Meddai Alpha, a fydd yn bwrw ati gyda’r ymchwil o fewn pythefnos: “Mae’n fraint enfawr derbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi eleni; dyma ysgoloriaeth yn enw un o gewri ein cenedl a fu mor weithgar ac angerddol dros y Gymraeg, ei diwylliant ac ysgolheictod Cymru yn genedlaethol, ond hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ac Adran y Gymraeg yn benodol. Drwy gydol fy nghyfnod fel myfyrwraig israddedig yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, derbyniais lwyth o gyfleoedd gwerthfawr gan Academi Hywel Teifi ac mae derbyn yr ysgoloriaeth hon eleni yn goron ar y cyfan, ac rwy’n ddiolchgar dros ben. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar yr ymchwil yn fuan ac yn sicr y bydd derbyn ysgoloriaeth yn enw Hywel Teifi yn ysbrydoliaeth fawr i mi.”

Beirniaid yr ysgoloriaeth eleni oedd yr Athro M Wynn Thomas, Angharad Mair a Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

Meddai’r darlledwr Huw Edwards: “Fel teulu rydym yn falch iawn o glywed am y penodiad ardderchog hwn, ac estynnwn ein llongyfarchion cynnes i Alpha gan ddymuno llwyddiant mawr iddi wrth y gwaith. Dyma'r ysgoloriaeth gyntaf i'w dyfarnu ac fe fyddai Dad heb unrhyw amheuaeth yn ymfalchïo yn yr ymdrechion i hybu gwaith ymchwil safonol a phwysig o ran diwylliant Cymru. Diolch i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a'r Athro M Wynn Thomas am eu hymroddiad, ac yn enwedig i Angharad Mair a chwmni Tinopolis am eu nawdd hael.”

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae’r Academi yn falch tu hwnt ein bod yn gallu dyfarnu Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi am y tro cyntaf eleni, diolch i gefnogaeth cynifer o gyfeillion a theulu Hywel Teifi a charedigion y Gymraeg dros y blynyddoedd. Mae’n bleser ei chyflwyno hefyd i Alpha Evans, un o raddedigion disglair Prifysgol Abertawe. Mae astudiaeth Alpha Evans yn addo bod yn un amlddisgyblaethol, ddifyr iawn, ac mae’n hynod addas mai dinas Abertawe fydd wrth galon ei hymchwil. Rwy’n siŵr y cawn astudiaeth werthfawr ganddi yn ystod y blynyddoedd nesaf a fydd yn glod i Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi a'r cof am Hywel.”

Rhannu'r stori