Ffotograff o Kristen yn traddodi ei chyflwyniad 3MT ar ffurf rithwir

Mae myfyrwraig PhD o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.

Gwnaeth Kristen Hawkins, sy'n astudio am PhD mewn Niwrowyddoniaeth, drechu cystadleuwyr o bob rhan o'r Brifysgol gyda'i chyflwyniad "Brain Wars" ar ei hymchwil i'r frwydr yn erbyn sglerosis ymledol.

Wedi'i sefydlu gan Brifysgol Queensland yn 2008, mae 3MT yn gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir mewn mwy na 200 o brifysgolion ledled y byd.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr PhD ac mae'n herio cyfranogwyr i gyflwyno eu gwaith ymchwil mewn tair munud yn unig, ar ffurf un sleid PowerPoint sefydlog sy'n ddealladwy i gynulleidfa ddeallus ond heb unrhyw gefndir yn y maes ymchwil.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o oddeutu 70 o sefydliadau yn y DU sydd bellach yn rhan o'r rhwydwaith byd-eang hwn, sy'n annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i hyrwyddo eu gwaith ymchwil a'u brwdfrydedd dros eu dewis bwnc er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigol.

Nod 3MT yw dangos i wahanol gynulleidfaoedd ansawdd ardderchog ac amrywiaeth y gwaith ymchwil a wneir gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, pa mor berthnasol ydyw i'r byd a'r effaith y mae'n ei chael arno.

Gan drafod ei llwyddiant yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, meddai Kristen: “Mae fy mhrofiad o 3MT wedi bod yn wych. Nid yw tair munud yn amser hir iawn, sy'n gwneud i chi feddwl o ddifrif am agweddau mwyaf perthnasol a deniadol eich gwaith o safbwynt cynulleidfa ehangach.” 

Meddai'r Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol – Ymchwil Ôl-raddedig: “Gwnaeth yr ymgeiswyr greu argraff arbennig o ffafriol eleni, gan oresgyn yr her o gyflwyno ar ffurf rithwir.

“Yn wyneb cystadleuaeth galed, gwnaeth Kristen ddisgleirio drwy ei chyflwyniad taer a gafaelgar ar ei gwaith ymchwil ac rwy'n falch y bydd hi'n cynrychioli Abertawe ar y llwyfan cenedlaethol.”

Bydd Kristen yn mynd ymlaen i rownd gogynderfynol 3MT y DU ac mae'n bosib y caiff gyfle i gymryd rhan yn rownd derfynol ar-lein y DU ym mis Medi, a gyflwynir gan Vitae, un o geffylau blaen y byd ym maes datblygu ymchwilwyr.

Gwyliwch recordiad o rownd derfynol cystadleuaeth 3MT 2021 Prifysgol Abertawe i weld buddugoliaeth Kristen a dysgu am y gwaith ymchwil anhygoel sy'n cael ei wneud yn Abertawe.

Rhannu'r stori