Paentiad wedi pylu o bobl yr Hen Aifft yn gwehyddu ac yn nyddu edau.

Archwilio Gyda Mi: Tecstilau a'r Hen Aifft

Mae'r cwrs 10 wythnos ar gael i bawb a bydd yn archwilio'r dulliau gwahanol o ddylunio tecstilau a oedd yn cael eu defnyddio yn yr Hen Aifft.

Mae amgueddfeydd ledled y byd yn llawn arteffactau o'r Hen Aifft, gan gynnwys gynau, rhwymynnau mymïod a dillad canoloesol. Ar y cwrs, a gyflwynir gan Brifysgol Abertawe, gall myfyrwyr ddisgwyl dysgu sut roedd llin yn cael ei gynaeafu, sut roedd gwyddiau hynafol yn cael eu gosod a sut gellir creu edau heb nyddu, gan werthuso llwyddiant y llifynnau amrywiol sy'n seiliedig ar blanhigion. 

Bydd Dr Carolyn Graves-Brown yn arwain y darlithoedd ar-lein drwy Zoom, gan arddangos ac arbrofi'n fyw bob wythnos. Gall myfyrwyr ddewis gwylio neu gymryd rhan gartref gan ddefnyddio eu hadnoddau eu hunain, ond mae pawb yn sicr o ddysgu rhywbeth newydd wrth astudio'r hen decstilau hyn.

Bydd y cwrs yn dechrau ar 23 Medi ac yn para am 10 wythnos, gyda sesiwn dwy awr bob dydd Iau rhwng 3pm a 5pm. Nid oes rhaid i chi fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno cais ac, er bod y cwrs ar gyfer oedolion yn bennaf, mae croeso i blant hefyd.

Darperir rhestr o awgrymiadau o ran cyflenwadau gan Dr Graves-Brown, a fydd yn defnyddio llifynnau sy'n seiliedig ar blanhigion yn hytrach na phryfed, a gwlân o lochesau defaid.

Nod y cwrs yw cynnig profiad dysgu i bawb, gan gynnwys Dr Graves-Brown, sy'n dweud:  “Mae croeso i chi gymryd rhan yn yr arbrofion gyda mi wrth i ni ymchwilio ar y cyd bob wythnos, neu i wylio a darganfod yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth i'r canlyniadau ddod i'r amlwg. Alla i ddim addo rhoi'r holl atebion i chi, ond rwy'n estyn gwahoddiad i chi archwilio gyda mi.”

Os hoffech sicrhau lle ar y cwrs, cewch gofrestru yma.

Rhannu'r stori