Llun o leoliad arddangos newydd Oriel Science, sy'n dangos sut olwg sydd arno o'r tu allan.

Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe yn ôl mewn lleoliad arddangos newydd yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn agor ddydd Sadwrn 22 Mai.

Bydd ar agor o 10am i 4pm bob penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol, gan gynnig cyfle i ymwelwyr o bob oedran ddarganfod rhyfeddodau'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf a wneir ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd y lleoliad newydd hwn yn adeiladu ar lwyddiant lleoliad dros dro Oriel Science ar Ffordd y Dywysoges, a wnaeth groesawu bron 16,000 o ymwelwyr a mwy na mil o blant yn ystod y 100 niwrnod pan fu ar agor yn ystod 2016-17.

Thema'r arddangosfa honno oedd ‘Amser’ ac roedd ei harddangosion yn cynnwys brasfodel o'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, a char DeLorean ar thema Back to the Future er mwyn tynnu sylw at ymchwil i ofod-amser crwm.

Bydd mynediad am ddim i'r lleoliad ar Stryd y Castell (sydd o fewn munud i Sgwâr y Castell ar droed) a bydd yn cynnwys dwy arddangosfa, sef ‘Symud a Mudiant’ ac ‘Ymateb Prifysgol Abertawe i Covid-19’.

Bydd ‘Symud a Mudiant’ yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld sut mae rhewlifoedd yn ymchwyddo yn yr Arctig, dysgu sut gall seinyddion uwchsonig achosi i ronynnau esgyn i'r awyr, a mesur hyd eu breichiau yn erbyn lled adenydd condor. Bydd efelychydd car rasio Prifysgol Abertawe ar gael unwaith eto i bawb brofi eu sgiliau ar y trac rhithwir, yn ogystal â'r beic hydrogen a'r car Rasa sy'n cael ei bweru gan hydrogen a gynhyrchir gan Riversimple, sy'n gweithgynhyrchu cerbydau allyriadau sero yng Nghymru.

Bydd arddangosion a chyflwyniadau ‘Ymateb Prifysgol Abertawe i Covid-19’ yn dangos i ba raddau y mae myfyrwyr a staff ymchwil y Brifysgol wedi helpu'r gymuned leol a gweithwyr rheng flaen i ymateb i'r pandemig. Bydd yr arddangosion yn cynnwys feisorau 3D wedi'u hargraffu, peiriant anadlu, a phaentiadau sy'n portreadu breuddwydion gweithwyr allweddol yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19.

Meddai'r Athro Chris Allton, Cyfarwyddwr Oriel Science : “Mae'n wirioneddol wych cael agor ein lleoliad newydd yng nghanol y ddinas i ddangos ymchwil y Brifysgol i bobl sy'n byw yn ardal Abertawe. Mae Oriel Science yn defnyddio'r ymchwil anhygoel hon, ar ffurf arddangosion difyr a rhyngweithiol, er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth iau i fod yn beirianwyr, yn feddygon, yn dechnolegwyr ac yn arloeswyr y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae agor lleoliad newydd Oriel Science yng nghanol y ddinas yn rhywbeth i'w groesawu. Dyma ddigwyddiad pwysig, yn enwedig yn ystod y flwyddyn anodd iawn hon. Mewn llawer o ffyrdd, bu'r Brifysgol ar flaen y gad wrth fynd i'r afael ag effeithiau cymdeithasol a meddygol Covid-19 a bydd yr arddangosfa yn y lleoliad newydd yn dangos hynny. Ond, yn fwy na hynny, mae agor y lleoliad hwn yn dangos ymrwymiad i Abertawe, ac yn enwedig i'r genhedlaeth nesaf o ddarpar wyddonwyr yn ardal Abertawe a fydd yn edrych y tu hwnt i Covid-19 a thuag at y dyfodol.”

Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Oriel Science.

Rhannu'r stori