Golwg allanol ar adeilad yr adran Gwyddor Data Poblogaethau.

Dyfarnwyd cyllid gwerth £2.4 miliwn i Brifysgol Abertawe er mwyn parhau i ddatblygu Porth Data Dementias Platform UK (DPUK) – ystorfa data o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil i ddementia.

Mae DPUK yn gweithredu ar Blatfform eYmchwil Diogel (SeRP), darparwr Amgylchedd Ymchwil y Gellir Ymddiried Ynddo (TRE), a ddatblygwyd gan y tîm Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae adnewyddu'r cyllid yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Ymchwil Feddygol y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â byd diwydiant a'r trydydd sector.

Mae adnewyddu'r cyllid yn golygu y bydd DPUK yn derbyn £7.5 miliwn pellach gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a hyd at £8.5 miliwn gan bartneriaid i gefnogi ei nodau, sef cyflymu cynnydd ym maes ymchwil i ddementia drwy nodi arwyddion cynnar y clefyd a chefnogi'r gwaith o drosi canfyddiadau gwyddonol yn driniaethau a strategaethau ataliol newydd posibl.

Mae Porth Data DPUK, a arweinir gan yr Athro Ronan Lyons, yr Athro Simon Thompson, Emma Squires a'r tîm Gwyddor Data Poblogaethau, yn ystorfa ac yn amgylchedd o safon fyd-eang i ddadansoddi data wedi’i optimeiddio am garfannau, o bobl â dementia. Gellir ei defnyddio am ddim, a gall ymchwilwyr unrhyw le yn y byd gael mynediad at ddata aml-ddull o safon uchel o fwy na 50 o astudiaethau o'r boblogaeth ac o garfannau clinigol. Mae DPUK yn rhoi i ymchwilwyr fynediad ar-lein cyflym at ddata aml-ddull o safon uchel o dros 3.5 miliwn o gyfranogwyr.  

Gall ymchwilwyr nodi pa garfannau sy'n berthnasol i'w gwaith ymchwil neu eu maes astudio, cyflwyno cais am fynediad at y data, a'i ddadansoddi mewn amgylchedd diogel o bell ynghyd â chyswllt data, pecynnau meddalwedd dadansoddol, a gallu ar draws carfannau.  

Cam nesaf DPUK 

Bydd cam nesaf DPUK yn adeiladu ar ei gyflawniadau hyd yn hyn mewn tri maes allweddol, gan weithio'n strategol gyda buddsoddiadau sy'n cyd-fynd â’i nodau yn y Deyrnas Unedig:  

  • Datblygir Porth Data DPUK i greu ystorfa flaenllaw yn fyd-eang ar gyfer data o astudiaethau o'r boblogaeth a charfannau clinigol. Mae'r astudiaethau hyn yn dilyn cyfranogwyr dros gyfnod estynedig o amser er mwyn canfod newidiadau o ganlyniad i’r clefyd. Bydd y Porth Data yn cydweddu ag ystorfeydd data rhyngwladol tebyg drwy Fenter Data Clefyd Alzheimer (ADDI), ac mewn partneriaeth ag Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig, bydd yn cysylltu cofnodion iechyd electronig cleifion y GIG â data DPUK am garfannau er mwyn darparu adnodd gwyddoniaeth agored sylweddol ar gyfer y gymuned. Bydd dadansoddi'r data hyn yn cynnig dealltwriaeth newydd o ddementia - gan gynnwys arwyddion cynharaf y clefyd.  
  • Bydd y Fframwaith Cynnal Treialon yn sefydlu dull o brofi triniaethau newydd ar gyfer dementia. Gan weithio gyda chyd-fenter Ymchwil i Ddementia yr NIHR a Chofrestr Iechyd Ymennydd yr Alban, bydd y rhwydwaith cenedlaethol hwn yn hyrwyddo gwaith recriwtio cyfranogwyr o blith aelodau’r cyhoedd a bydd yn dewis yn fanwl y gwirfoddolwyr cywir ar gyfer yr astudiaethau a'r treialon cywir, er mwyn sicrhau y gallwn ddeall yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio – yn gyflym ac yn gadarn. 
  • Bydd y Deorydd Meddygaeth Arbrofol yn cefnogi ystod o astudiaethau gwyddonol sy'n ymchwilio i achosion craidd dementia: sut rydym yn colli synapsau (y 'cyffyrdd' rhwng nerfgelloedd); yr hyn sy'n achosi i'r ymennydd lidio; a sut gallwn atal dementia sydd wedi'i achosi gan glefyd fasgwlaidd (pibellau gwaed). Bydd y Deorydd yn gweithredu mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil i Ddementia y Deyrnas Unedig, Ymchwil i Alzheimer's y Deyrnas Unedig, a'r Gymdeithas Alzheimer's. 

Dywedodd John Gallacher, Cyfarwyddwr DPUK ac Athro Iechyd Gwybyddol ym Mhrifysgol Rhydychen: “Mae'n bleser mawr gennym gadarnhau bod ein cyllid wedi'i adnewyddu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy'n golygu y bydd gan lawer mwy o wyddonwyr fynediad at y dechnoleg, y cymorth a'r adnoddau ymchwil angenrheidiol er mwyn trawsnewid ein dealltwriaeth o ddementia.  

“Mae dementia yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf rydym yn eu hwynebu'n fyd-eang yn yr 21ain ganrif, ac rydym yn credu y bydd ethos DPUK o gydweithio ac arloesi yn helpu i greu'r arloesedd o ran canfod a thrin yn gynnar y mae ei angen arnom yn frys.” 

Dywedodd yr Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol yn DPUK ac Arweinydd Porth Data DPUK: “Rydym wrth ein boddau bod y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi darparu cyllid er mwyn galluogi'r bartneriaeth i barhau â'i gwaith hanfodol. Bydd y cyllid gwerth £2.4 miliwn ar gyfer Porth Data DPUK yn ein galluogi i barhau i ddarparu mynediad diogel a chyflym i ymchwilwyr at ddata aml-ddull o safon uchel o dros 3.5 miliwn o gyfranogwyr, ac i ddatblygu'r porth yn ystorfa fyd-eang ar gyfer data o astudiaethau am y boblogaeth a charfannau clinigol.”

Rhannu'r stori