Gwyddoniaeth Cymru yn arwain y byd wrth fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r blaned

Efallai fod Cymru’n wlad fach, ond rydym yn rhagori o ran ansawdd a swm yr ymchwil a wnawn yma. Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at gryfder penodol gwyddoniaeth yng Nghymru wrth gyfrannu at ymdrechion i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. 

Cafodd yr adroddiad, Perfformiad Ymchwil Cymru gyda Chymaryddion y DU a Rhyngwladol, ei lansio mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Peter Halligan.

Meddai’r Athro Julia Jones, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Ynni ac Amgylchedd Carbon Isel Cymru ac athro ym Mhrifysgol Bangor: “Mae'r adroddiad hwn yn hynod gadarnhaol. Mae ymchwil o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn dod o hyd i atebion i broblemau anodd, ac mae mor galonogol darllen bod cymaint o ymdrechion ymchwil Cymru yn targedu’r heriau pwysicaf sy'n ein hwynebu, a bod hyn yn arwain y byd o ran ansawdd.”

Cytunwyd ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy gan holl aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn 2015 fel galwad frys am weithredu gan bob gwlad. Maent yn cydnabod bod rhoi terfyn ar dlodi yn gorfod digwydd law yn llaw â strategaethau sy'n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau anghydraddoldeb, ac yn sbarduno twf economaidd – gan wneud hyn oll wrth fynd i'r afael hefyd â newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a'n coedwigoedd.

Meddai’r Athro Carole Llewellyn, o Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe yn tyfu microalgâu gan ddefnyddio maetholion gwastraff o ddiwydiannau ffermio a bwyd a ddefnyddir wedyn i gynhyrchu cynhyrchion newydd megis bwyd anifeiliaid.

"Felly, drwy weithio gyda ffermwyr, diwydiant a llunwyr polisi, rydym yn lleihau gwastraff ac yn creu cynhyrchion mwy cynaliadwy ar draul cynhyrchion anghynaliadwy. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy gan gynnwys treuliant cyfrifol a gweithredu er mwyn yr hinsawdd.”

Meddai Dr Rattan Yadav o Brifysgol Aberystwyth: “Ymysg amrywiaeth eang o brojectau, rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn India ac yn Affrica i ddatblygu mathau newydd o filed perlog, sydd yn brif fwyd, a all helpu i leihau’r risg o ddiabetes – mae hyn yn cyfrannu at Nod Datblygu Cynaliadwy 2 (Dim Newyn) a Nod Datblygu Cynaliadwy 3 (Lles ac Iechyd Da).”

Mae ymchwil Cymru yn gwneud cyfraniad arbennig o gryf at y nodau sy'n ymwneud â'r blaned, megis Gweithredu er mwyn yr Hinsawdd (rhif 13), Bywyd Tanddwr (rhif 14), a Bywyd ar y Tir (rhif 15).

Meddai’r Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd: “Mae'r adroddiad hwn yn gadarnhaol iawn gan ei fod yn pwysleisio bod ymchwil sy’n cael effaith ym meysydd gwyddorau’r amgylchedd a chynaliadwyedd hefyd yn llwyddo yn fyd-eang ac yn cynyddu amlygrwydd ymchwil Cymru. Yng Nghaerdydd rydym wedi ceisio canolbwyntio ar ymchwil amlddisgyblaethol i wyddorau’r amgylchedd, yng Nghymru ac mewn rhanbarthau allweddol ledled y byd, ac mae'n dda gweld bod y gymuned ymchwil fyd-eang yn cydnabod hyn.”

Meddai Peter Halligan: “Ffactor hanfodol yn llwyddiant Cymru yw bod ymchwilwyr yn cydweithredu i raddau helaeth ar draws ffiniau a sectorau. Mae ymchwil o Gymru ar ei mwyaf effeithiol pan fo ymchwilwyr o Gymru’n cydweithio ag eraill, ni waeth am leoliad na sector, gan ddangos mor gynhyrchiol fu blynyddoedd o rwydweithio’n rhyngwladol.”

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Gyda COP26 ychydig dros fis i ffwrdd, mae’r adroddiad hwn yn ddiddorol iawn ac roeddwn mor falch o weld y cyfraniad y mae ein gwyddonwyr yn parhau i’w wneud at ddatrys problemau byd-eang.

“Mae Cymru’n gydradd gyntaf o ran effaith ei hymchwil, 130% yn uwch na chyfartaledd y byd, o ystyried yr holl gymaryddion a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad, gan ein gwneud yn arweinydd byd-eang mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddyfnder ac ehangder yr ymchwil a’r dalent sydd gennym yma yng Nghymru a’n cryfderau ym meysydd pobl, y blaned a ffyniant.”

Menter ymchwil Cymru gyfan yw Rhwydwaith Ymchwil Ynni ac Amgylchedd Carbon Isel Cymru, a gynhelir gan Brifysgol Bangor er mwyn cefnogi’r ymchwil flaenllaw a wneir yng Nghymru i chwilio am atebion ynni carbon isel sy’n seiliedig ar natur i heriau amgylcheddol, y fioeconomi, a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Ei nod yw datblygu ymhellach yr ymchwil ragorol a wneir yng Nghymru a’i chyfoethogi, a chynyddu’r cyllid cystadleuol a ddaw i Gymru.

Rhannu'r stori