Logo Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi heddiw (30 Medi) enwau'r siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn niwrnod agoriadol Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a gynhelir am y tro cyntaf o 8 i 10 Tachwedd.

Wedi'i chynnull gan Hillary Rodham Clinton a'i noddi gan Lywodraeth Cymru, bydd yr uwch-gynhadledd yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw a meddylwyr ysbrydoledig ynghyd i drafod rhai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ein cymdeithas, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, iechyd byd-eang, defnyddio technoleg er gwell, a chyfiawnder cymdeithasol. Eleni, thema'r uwch-gynhadledd yw partneriaethau ar gyfer y byd yn dilyn Covid-19.

Bydd y diwrnod cyntaf yn cynnwys trafodaethau dan arweiniad yr Ysgrifennydd Clinton ag arweinwyr rhyngwladol cyfredol a chynt, a fydd yn dechrau am 3pm ar 8 Tachwedd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru ers 2018. Bu’n swyddog prawf ac yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â bod yn athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd wedi addysgu ym Mhrifysgol Abertawe yn y gorffennol. Daeth Mark yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011. Rhwng 2013 a 2018, bu'n gyfrifol am bortffolios iechyd, llywodraeth leol a chyllid Llywodraeth Cymru. Ar ôl iddo arwain ymateb Cymru i bandemig Covid-19, fe'i hailetholwyd yn 2021 wrth i Lafur Cymru efelychu perfformiad etholiadol gorau'r blaid erioed.

Katrín Jakobsdóttir, sef Prif Weinidog Gwlad yr Iâ ers mis Tachwedd 2017. Mae llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Jakobsdóttir wedi parhau ag ymagwedd flaengar Gwlad yr Iâ at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac allgáu economaidd menywod. Mae ei llywodraeth wedi cymryd camau i roi diwedd ar drais rhywiol ac ar sail rhywedd ac i ymestyn rhannu absenoldeb rhieni ar gyfer y ddau riant. Fel Prif Weinidog, penderfynodd weithredu fel Gweinidog Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau er mwyn sicrhau camau gweithredu cydlynol yn erbyn pob math o anghyfiawnder ar sail rhywedd. Mae llywodraeth y Prif Weinidog Jakobsdóttir hefyd ar flaen y gad o ran polisi newid yn yr hinsawdd ac mae wedi ymrwymo i wneud Gwlad yr Iâ yn niwtral o ran carbon cyn 2040.

Tony Blair, Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Tony Blair dros Newid Byd-eang (The Tony Blair Institute for Global Change), a fu gynt yn Brif Weinidog Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Fel Prif Weinidog, gwnaeth helpu i sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon, gan greu hanes drwy Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998. Bu'n ymgyrchu'n frwd dros bolisi tramor ymyraethol, gan greu'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, treblu cymorth ariannol y DU i Affrica, a chyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ellen Johnson Sirleaf, a fu'n Arlywydd Liberia o 2006 i 2018, oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn bennaeth gwladwriaeth yn Affrica. Mae'n adnabyddus am ymgyrchu dros heddwch, cyfiawnder a democratiaeth, a chyflwynwyd Gwobr Heddwch Nobel iddi yn 2011 am ei gwaith i gynnwys menywod yn y broses o gadw'r heddwch. Gwnaeth arwain Liberia yn ystod argyfwng Ebola o 2014 i 2016 ac ar hyn o bryd mae'n cyd-gadeirio panel annibynnol Sefydliad Iechyd y Byd ar baratoi at glefydau pandemig ac ymateb iddynt.

Alexander Stubb, a fu'n Brif Weinidog, Gweinidog Cyllid, Gweinidog Tramor, a Gweinidog Masnach ac Ewrop y Ffindir (2008-2016). Bu'n Aelod o Senedd Ewrop yn y gorffennol ac yn Is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) o 2017 i 2020. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr Ysgol Llywodraethu Trawswladol yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Bydd Dana Strong, a benodwyd yn Brif Weithredwr Grŵp Sky yn 2021, hefyd yn rhannu ei phrofiadau ar y diwrnod agoriadol. Cyn ei rôl bresennol, Dana oedd Llywydd Gwasanaethau Defnyddwyr Comcast Cable, y gweithredwr band eang a PayTV mwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae Sky wedi bod yn bartner yn rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ers 2019, gan gefnogi tair carfan o ysgolheigion ar y radd meistr Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi ac Ymarfer.

Meddai'r Ysgrifennydd Clinton:

“Mae'n destun cyffro i mi ein bod ninnau, ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe, yn dod â rhai o bobl fwyaf gwybodus, profiadol ac ysbrydoledig y byd yn eu meysydd ynghyd i rannu eu sylwadau gyda ni. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y trafodaethau hyn ac yn gobeithio y byddant yn cynnig ymdeimlad o optimistiaeth am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd.”

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

“Mae'n fraint cael dechrau'r Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang gyntaf gyda grŵp mor drawiadol o siaradwyr, y byddant oll yn rhannu eu safbwyntiau ynghylch sut mae'r byd yn newid a sut gallwn fynd i'r afael â rhai o'n heriau cymdeithasol mwyaf dybryd – gyda'n gilydd.

“Byddwn yn cyhoeddi enwau rhagor o siaradwyr proffil uchel dros y pythefnos nesaf ac rydym yn hynod ddiolchgar i'n cyfranogwyr am gynnig eu hamser a'u harbenigedd, ac am gyfrannu at uwch-gynhadledd fyd-eang sy'n argoeli i fod yn un wirioneddol gyffrous ac effeithiol. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r digwyddiad hwn mewn modd mor hael.”

Cynhelir yr uwch-gynhadledd ar ffurf rithwir rhwng 8 a 10 Tachwedd 2021. Caiff yr holl drafodaethau a phaneli eu ffrydio'n fyw ac am ddim. 

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad. 

Rhannu'r stori