Gwaith mathemategydd o Brifysgol Abertawe yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn uchel ei fri

Mae papur gan Grigory Garkusha o Brifysgol Abertawe newydd gael ei gyhoeddi gan un o’r cyfnodolion mathemateg uchaf ei fri yn y byd. 

Mae gwaith Dr Garkusha, Athro Cysylltiol yn yr Adran Fathemateg, a'r Athro Ivan Panin, ei gydweithiwr o St Petersburg, yn ymddangos yn Journal of the American Mathematical Society – cyfnodolyn clodfawr sy'n cyhoeddi papurau o'r radd flaenaf mewn mathemateg bur a chymhwysol – yn 2021.

Mae'r papur yn cyflwyno rhaglen enwog ar yr ymagwedd newydd at theori homotopi sefydlog a ddechreuwyd gan Vladimir Voevodsky yn 2001. Gwnaeth Voevodsky weddnewid sawl agwedd ar fathemateg a dyfarnwyd Medal Fields, y brif wobr ym maes mathemateg (sy'n cyfateb i Wobr Nobel o safbwynt mathemategwyr), iddo yn 2002.

Mae canlyniadau'r papur wedi cael effaith sylweddol ar y maes ac maent wedi cael eu cyflwyno yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Princeton, Institut des Hautes Études Scientifiques ym Mharis, Sefydliad Mathemateg Mittag-Leffler yn Stockholm a chanolfannau ymchwil eraill o'r radd flaenaf.

Mae llu o ddehongliadau a defnyddiau newydd gan amrywiaeth o fathemategwyr yn Ewrop a Gogledd America eisoes wedi deillio o'r gwaith hwn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Dr Garkusha wedi cael ei wahodd i gyflwyno cyfresi uchel eu bri o ddarlithoedd ar y canlyniadau hyn yn Warwick, Oslo, Paris, Los Angeles, St Petersburg a Bonn. Mae sawl cyfres o seminarau ymchwil wedi cael eu neilltuo'n benodol i'r papur hwn mewn lleoliadau megis ysgol yn Los Angeles (2016), yn ogystal â semester yr hydref ym Mhrifysgol Duisburg-Essen (2016) a seminarau dydd Iau Prifysgol Harvard yn hydref 2019.

Meddai Dr Garkusha: “Mae'r papur llwyddiannus hwn yn dilyn wyth mlynedd o ymchwil ddwys, sydd wedi bod yn anturus ac sydd wedi cymryd sawl tro annisgwyl. Rwyf bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfeiriadau ymchwil newydd a fydd yn defnyddio canlyniadau a methodoleg y papur hwn yn helaeth.”

Meddai'r Athro Elaine Crooks, Pennaeth yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg: “Mae cyhoeddi erthygl ymchwil yn Journal of the American Mathematical Society yn llwyddiant mawr i Dr Garkusha a mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hwn eisoes yn denu sylw sylweddol yn rhyngwladol a disgwylir iddo fod yn gyfrwng ar gyfer datblygiadau cyffrous eraill yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Rhannu'r stori