Richard Howard Thomas (yng nghanol y rheng flaen) yn nhîm criced y Brifysgol yn ystod 1954/5

Richard Howard Thomas (yng nghanol y rheng flaen) yn nhîm criced y Brifysgol yn ystod 1954/5 

Yn ogystal â bod yn llafur cariad, roedd llyfr diweddaraf darlithydd o Brifysgol Abertawe yn gyfle i dalu teyrnged i'r dyn a ysbrydolodd ei frwdfrydedd dros griced. 

Caiff Cricketing Lives: A Characterful History from Pitch to Page gan Dr Richard Thomas ei gyhoeddi y mis nesaf. Mae'n edrych yn ôl ar rai o chwaraewyr mwyaf anhygoel y gamp a'r straeon sy'n gysylltiedig â hwy.

Cafodd Dr Thomas, athro cysylltiol y cyfryngau a chyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ei gyflwyno i'r gamp gan ei dad diweddar, Richard Howard Thomas, a fu'n gapten ar dîm criced y Brifysgol yn ystod y 1950au.

Meddai: “Fy nhad oedd yr unigolyn a wnaeth ysbrydoli fy mrwdfrydedd dros y gamp, a gwnaethom dreulio amser helaeth gyda'n gilydd yn ei gwylio ac yn siarad amdani.”

Wrth gyflwyno ei lyfr er cof am ei dad, a fu farw y llynedd, meddai Dr Thomas: “Dywedodd wrthyf am griced, gan annog fy mrwdfrydedd dros y gamp a dangos amynedd di-baid wrth geisio fy helpu i fod yn chwaraewr gwell. Er fy mod yn anobeithiol, byddai'n fy nghefnogi ac yn fy annog o hyd.”

Ychwanegodd Dr Thomas: “Roedd yn gymhelliant mawr i mi orffen y llyfr ar ffurf ddrafft fel y gallai ei ddarllen cyn iddo farw a chynnig adborth craff ac adeiladol i mi.”

Mae'r gwaith gorffenedig yn cynnwys rhagair gan Daniel Norcross o BBC Test Match Special. Yn ôl Wisden Cricket Monthly, dyma'r math o lyfr y byddwch am gydio ynddo – “a warm and generous history that glows with love as well as learning”.

Mae'r cylchgrawn hefyd yn canmol gallu Dr Thomas i gael gafael ar ddyfyniadau anghyfarwydd, sef “the reference that sends you scuttling towards unfamiliar books”.

Yn ddoniol ac yn hynod wresog, mae Cricketing Lives yn adrodd stori'r gamp drwy drafod y bobl sydd wedi ei llywio, o'r gornestau gwledig yn Lloegr yn y ddeunawfed ganrif i gyffro Uwch-gynghrair India. Mae'n olrhain W G Grace a'i hoffter o ennill tamaid; Viv Richards a'i orchestion anorchfygol; y dysgedig Wilf Wooller, a fu'n gapten chwedlonol ar Forgannwg; a Sarah Taylor, a ddisgrifir fel y wicedwr gorau yn y byd – o blith dynion a menywod – sy'n digwydd bod yn hoff chwaraewr ei dad erioed.

Yn ogystal â bod yn arbenigwr ar gyfathrebu gwleidyddol, y cyfryngau amgen a'r sylw a roddir i etholiadau, mae Dr Thomas yn aelod o grŵp ymchwil dadansoddi gwleidyddol a llywodraethu Prifysgol Abertawe. Hefyd, ef yw golygydd The Swansea Mumbler, sef cyfrwng ar-lein i ddangos gweithgareddau adran y cyfryngau, lle mae ef wedi rhannu atgofion ei dad o'i amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Caiff Cricketing Lives: A Characterful History from Pitch to Page gan Dr Richard Thomas ei gyhoeddi gan Reaktion Books ar 17 Mai a'i bris yw £20

Rhannu'r stori