Croeso i'r Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae'r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y gorau yn y DU, a dyfarnwyd y safle yn gyntaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2023) 

Mae'r gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn yr adran yn archwilio hanes, theori ac ymarfer meysydd y cyfryngau, ffilm, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus.

Datblygir ein hymchwil drwy ddau brif grŵp, sef Ffilm a Hunaniaeth Ewropeaidd, a Hanes, Theori a Thechnoleg y Cyfryngau, ynghyd â chlystyrau gorgyffyrddol sy'n archwilio Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau yng Nghymru.

Mae'r rhaglenni gradd ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig yn cwmpasu meysydd print, darlledu, ffilm a'r cyfryngau newydd, ac yn cynnwys tiwtora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau gwaith mewn sefydliadau ym meysydd y cyfryngau, newyddiaduraeth, darlledu a chysylltiadau cyhoeddus.