Croeso i Astudiaethau Americanaidd

Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, Unol Daleithiau America.

Mae Astudiaethau Americanaidd yn y 5 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a
Rhagolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2023).

Yma yn Abertawe, mae ein myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chroesawgar. Mae arweinwyr sy'n ymweld o'r Unol Daleithiau yn cyfrannu at ddarparu rhaglen addysgu gyffrous, sy'n ysgogi'n ddeallusol ac yn heriol, ac sy'n arwain at ystod o yrfaoedd.