Clirio yw cam olaf proses ymgeisio UCAS. Mae'n rhoi ail gyfle i'r rhai hynny nad ydynt efallai wedi cael y graddau yr oeddent yn gobeithio amdanynt, neu sydd wedi newid eu meddwl am yr hyn yr hoffent ei astudio.
Hefyd, mae'n gyfle i'r rhai sydd wedi gwneud yn well nag yr oeddent yn meddwl, a all uwchraddio eu lle yn y brifysgol, drwy broses o'r enw Addasu. Gallai'r ddwy broses roi cyfle i ti ddod o hyd i'r cwrs gorau i ti.
Mae llawer o brifysgolion yn sicrhau bod lleoedd ar gael yn ystod Clirio, felly mae cyfle o hyd i ti ddechrau ar dy yrfa ddelfrydol. Nid wyt ti ar dy ben dy hun gan fod tua 17,000 o fyfyrwyr wedi dod o hyd i'w lle yn y brifysgol drwy Glirio y llynedd.