Myfyrwraig nyrsio'n edrych ar lyfr dan oruchwyliaeth ei hathro wrth sefyll ger cwpwrdd cyffuriau mewn ward ysbyty. Mae myfyriwr nyrsio gwrywaidd yn y cefndir yng nghwmni claf mewn gwely ysbyty.

Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i gyflawni rôl allweddol wrth hyfforddi gweithlu gofal iechyd y dyfodol dros y degawd nesaf.

Ar ben ei chyrsiau gwyddor barafeddygol a'i rhaglen nyrsio arobryn, dyfarnwyd contractau newydd pwysig i Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd y Brifysgol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y corff sy'n goruchwylio addysg, hyfforddiant a datblygiad gofal iechyd.

Mae'r penderfyniad yn cydnabod safon uchel yr addysg a ddarperir gan gyrsiau canlynol y Brifysgol:

  • nyrsio oedolion, iechyd meddwl a phlant;
  • astudiaethau cydymaith meddygol;
  • bydwreigiaeth;
  • ei phortffolio gwyddorau gofal iechyd;
  • gwyddor barafeddygol.

O ganlyniad i'r contractau newydd, bydd y Brifysgol yn cynnig cyrsiau mewn nyrsio anableddau dysgu; dysgu gwasgaredig ar gyfer nyrsio; therapi galwedigaethol; ac ymarfer adran llawfeddygaeth.

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol y gyfadran: “Mae'r canlyniad ardderchog hwn yn adlewyrchu ansawdd uchel y profiad dysgu rydym yn ei gynnig drwy ein holl gyrsiau iechyd proffesiynol i gyflenwi gweithlu GIG y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Michelle Lee, Dirprwy Bennaeth y gyfadran: “Rydym yn falch o ennill y comisiwn ar gyfer nyrsio anableddau dysgu, therapi galwedigaethol ac ymarfer adran llawfeddygaeth. Bydd y meysydd newydd hyn yn ehangu ein portffolio arobryn o raglenni cyn cofrestru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chorff Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'n partneriaid o blith byrddau iechyd prifysgolion.”

Meddai Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae profiad y pandemig wedi dangos bod ein gweithlu gofal iechyd yn hollbwysig yma yng Nghymru, ac rwy'n falch y bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i gyflawni rôl allweddol yn ei ddatblygiad. Mae ehangu ein portffolio hyfforddiant yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd hanfodol y dyfodol.”

Daw'r newyddion o fewn wythnosau i Brifysgol Abertawe gyrraedd ei safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair 2022 y Complete University Guide.

Mae'r Brifysgol wedi dringo tri safle i rif 29 yn y prif dabl ac ar ben hynny mae hi ar frig y rhestr yn y DU ar gyfer Meddygaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael drwy gofrestru ar gyfer ein diwrnod agored rhithwir nesaf.

Rhannu'r stori