Arbenigwr iechyd plant yn cyrraedd y rhestr fer am anrhydedd ymchwil o fri

Mae academydd o Brifysgol Abertawe yn ceisio am wobr genedlaethol am ei gwaith arloesol ym maes iechyd plant ac addysg yn ystod ei PhD.

Mae Dr Emily Marchant wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eleni sy’n cydnabod llwyddiant ymchwilwyr a ariennir gan yr ESRC wrth gyflawni a galluogi effaith economaidd neu gymdeithasol sy’n deillio o ymchwil rhagorol. 

A hithau’n ymchwilydd ac yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yr ESRC ar gyfer HAPPEN Cymru (Iechyd a Chyflawniad Disgyblion mewn Rhwydwaith Addysg Gynradd), prosiect sy’n ceisio gwella iechyd, lles ac addysg plant, gan alluogi ysgolion i nodi meysydd penodol o angen ar gyfer eu disgyblion a chynllunio ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd ar waith o 2022. 

Drwy ei waith ymchwil, mae tîm HAPPEN yn gobeithio cael dealltwriaeth well o iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion drwy ddatblygu rhwydwaith ymchwil iechyd/cyflawniad o ysgolion cynradd cenedlaethol.

Yn ystod PhD Emily, gwnaeth ehangu’r rhwydwaith ddeng gwaith ar draws Cymru yn ogystal ag ymgymryd â’i gwaith ymchwil mewn iechyd ac addysg plant. 

Meddai Dr Marchant: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr nodedig hon a chael fy ngwaith doethurol wedi’i gydnabod gan yr ESRC. Ni allai ymchwil i iechyd ac addysg plant fod yn fwy pwysig wrth i ni droi cornel gyda phandemig Covid-19, gan weld effeithiau eang cau ysgolion a tharfu ar fywydau plant.

"Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar fy ymchwil doethurol a pharhau i gynnal gwaith ymchwil sy’n effeithio ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” 

Mae HAPPEN yn rhan o Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Meddai’r Athro Alison Park o’r ESRC: “Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i gydnabod gwyddonwyr cymdeithasol ac economegwyr o’r radd flaenaf ac amlygu sut mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i bobl a sefydliadau yn y DU ac mewn gwledydd eraill. 

“Mae’r cyfraniad pwysig a wneir gan y gwyddorau cymdeithasol i helpu cymunedau a busnesau i lywio’r pandemig yn elfen amlwg ymysg y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ond mae eraill yn amlygu pethau fel addysg, cynaliadwyedd ac iechyd.” 

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau, 18 Tachwedd.

Rhannu'r stori