Athro Meddygaeth Frys yn derbyn anrhydedd gan brifysgol yn Nenmarc

Yr Athro Adrian Evans a yr Athro Ylva Hellsten. 

Bydd cydweithrediad rhyngwladol sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn rhoi hwb i ymchwil arloesol i fuddion ymarfer corff i gleifion sydd wedi cael strôc.

Mae Adrian Evans, Athro Meddygaeth Frys yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi i rôl uchel ei bri, sef athro ymweld, gan Gyfadran Gwyddoniaeth Prifysgol Copenhagen, sefydliad sy'n arwain y byd.

Yr Athro Evans yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru, un o'r unedau mwyaf blaenllaw o'i fath yn y DU ac Ewrop, a ddatblygwyd gan Brifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae'r Athro Evans a'i dîm yn Ysbyty Treforys wedi bod yn gweithio gyda'r brifysgol yn Nenmarc a chydag ysbyty cyfagos am y pum mlynedd diwethaf.

Mae'r anrhydedd yn cydnabod ei waith rhagorol, yn nhyb y brifysgol, wrth ganfod a thrin clotiau annormal mewn afiechydon fasgwlaidd, fel strôc, clefyd y galon a sepsis.

Mae'r cydweithrediad â Copenhagen yn dyddio'n ôl i 2016 pan arweiniodd astudiaeth ymchwil yn Llundain at ddiddordeb cyffredin rhwng yr Athro Evans, yr Athro Ylva Hellsten, Athro Ffisioleg Ymarfer Corff a Chardiofasgwlaidd Prifysgol Copenhagen, a Dr Christina Kruuse, niwrolegydd ymgynghorol ac arbenigwr ym maes strociau yn Ysbyty Herlev yn Copenhagen.

Meddai'r Athro Evans: “Un o ffocysau pwysig a chyffrous y gwaith yw meintioli effeithiau buddiol ymarfer corff a gwell llif gwaed ymhlith cleifion sydd wedi cael strôc, a gwnaed hynny yn Ysbyty Herlev gyda Dr Kruuse.

“Mae cleifion sy’n cael eu sefydlogi yn dilyn strôc yn gwneud ymarfer corff yn y cyfleusterau ymchwil yn yr ysbyty.

“Asesir difrifoldeb y strôc a’r effaith ar lif y gwaed a chlotiau gan ddefnyddio bioddangosydd a ddatblygwyd gennym yng Nghanolfan Cymru.

“Ar hyn o bryd, nid yw’n glir pa lefel o ymarfer corff y dylai’r claf ei wneud i wella ei weithrediad fasgwlaidd ar ôl iddo gael strôc.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon, sydd bellach wedi cychwyn, yn arwain at astudiaethau mwy i bennu effeithiau buddiol tymor hwy rhaglenni ymarfer corff gwahanol, a fydd yn cael eu clustnodi i gleifion yn ôl difrifoldeb eu strôc.”

Mae'r Athro Hellsten yn arwain y grŵp ymchwil gardiofasgwlaidd o fri rhyngwladol ym Mhrifysgol Copenhagen ac mae'n arbenigwr ar fuddion iechyd ymarfer corff a llif y gwaed.

Meddai: “Mae ein hymchwil gyda’r Athro Evans a’i dîm yn cyfuno ein harbenigedd yn llif y gwaed a’u harbenigedd mewn clotiau.

“Mae'n dechrau rhoi dealltwriaeth newydd i ni o'r ffordd y mae ymarfer corff a newid yn llif y gwaed yn effeithio ar glotiau.” 

Ymwelodd yr Athro Evans â Copenhagen sawl tro cyn y pandemig. Y mis nesaf, bydd yn teithio yno am y tro cyntaf ers cael ei benodi'n athro ymweld.

Meddai Dr Mark Ramsey, Cyfarwyddwr Meddygol Uned Ysbyty Treforys: “Rydyn ni'n gwybod bod yr ymchwil orau weithiau'n cael ei gwneud pan fydd adrannau rhagorol yn cydweithio'n agos ar fuddiannau cyffredin.

“Bydd rôl yr athro ymweld yn ymestyn portffolio ymchwil gwyddorau iechyd y bwrdd iechyd a Phrifysgol Abertawe.” 

Rhannu'r stori