Digwyddiad Welsh Affairs - manylion

Bydd cyfres ffilmiau dogfen newydd sy'n archwilio'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu, gan ddefnyddio ymchwil academaidd, yn cael ei lansio mewn digwyddiad rhithwir – a fydd yn agored i bawb – gan un o weinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru.

Mae “Welsh Affairs” yn gyfres o ffilmiau dogfen hir a gynhyrchwyd gan dîm yn Adran Cyfryngau a Chyfathrebu'r Brifysgol, dan arweiniad y darlithydd Georgios Dimitropoulos, pennaeth Labordy Arloesi Ystafell y Cyfryngau.

Mae pob ffilm wedi'i seilio ar ganfyddiadau ymchwil, astudiaethau achos, data ystadegol a chyfweliadau â phreswylwyr, gweithwyr, arweinwyr busnes, academyddion a phobl sy'n llunio polisïau yng Nghymru.

Mae'r pynciau canlynol yn cael eu trafod yn y gyfres:

  • Effaith Brexit ar yr economi, masnach, busnes, cyflogaeth ac addysg uwch yng Nghymru (dwy bennod)
  • Effaith Covid-19 ar y GIG, addysg uwch a'r economi yng Nghymru (tair pennod)
  • Ailosod y GIG yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bolisïau a gweithrediadau (dwy bennod)

Mwy o wybodaeth am "Welsh Affairs"

Mae pum gŵyl ffilmiau ledled y byd wedi enwi'r rhaglen beilot yn ffilm ddogfen orau o blith cannoedd o gynigion.

Caiff y gyfres ei lansio mewn digwyddiad rhithwir am 4pm, ddydd Gwener 16 Gorffennaf. Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhagolwg byr o bob pennod.

**Cofrestrwch yma **ar gyfer y digwyddiad a gynhelir ddydd Gwener 16 Gorffennaf – yn agored i bawb

Bydd Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yn dod i'r digwyddiad lansio fel y siaradwr gwadd arbennig. Mae Mrs Evans wedi cyfrannu at y gyfres ffilmiau dogfen.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan yr Athro Cysylltiol Siân Rees a'r Athro Hamish Laing. Gwnaeth y ddau ohonynt gymryd rhan yn y prosiect. Caiff y sesiwn ei chadeirio gan yr Athro Elwen Evans CF, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Meddai cyfarwyddwr y gyfres, Georgios Dimitropoulos o Brifysgol Abertawe:

“Nod y prosiect yw cyfleu canfyddiadau ymchwil, astudiaethau empirig, data ystadegol, barn arbenigwyr a safbwyntiau pobl yn y modd mwyaf effeithlon a chytbwys drwy ffilmiau dogfen o safon.

Cefais y cyfle i gyfweld â myfyrwyr, academyddion, pobl sy'n llunio polisïau, arbenigwyr diwydiant, gweithwyr proffesiynol, arweinwyr busnes, a dinasyddion sy'n byw, yn gweithredu ac yn gweithio yng Nghymru ac sy'n cyfrannu ati.

Rwy'n teimlo'n freintiedig i fod yn rhan o'r daith hon ac i allu cyfleu profiadau bywyd gwerthfawr, safbwyntiau hynod ddifyr, syniadau craff, gweledigaeth a chymhelliant arloeswyr ac arweinwyr eithriadol a phobl frwd sy'n ymdrechu i wneud Cymru'n lle gwell i bawb!”

Astudiwch y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe

Rhannu'r stori