Arolwg llesiant diweddaraf yn cynnig cyfle i rannu eich profiadau pandemig

Mae astudiaeth arloesol sy'n archwilio effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru yn apelio am ragor o wybodaeth gan y cyhoedd.

Mae Lles Cymru, dan arweiniad yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe a Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd, wedi bod mewn bodolaeth ers 2020 ac mae wedi cynnal dau arolwg hyd yn hyn i ddarganfod sut mae'r Cymry wedi ymdopi â'r pandemig a'i ganlyniadau.

Gyda chefnogaeth o bob un saith bwrdd iechyd Cymru, caiff canfyddiadau unigryw’r prosiect eu defnyddio i helpu’r GIG yng Nghymru i ddeall nid yn unig y materion sy’n effeithio ar y boblogaeth yng Nghymru, ond hefyd i lunio gwasanaethau cymorth ar gyfer y dyfodol.

Meddai’r Athro Gray, o’r Ysgol Seicoleg: “Ers i’r prosiect ddechrau, rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymateb gwych a gawsom gan y cyhoedd. Rydym nawr yn galw arnyn nhw i'n cynorthwyo eto.

“Yn dilyn tri chyfnod clo, y rhaglen frechu a rhai canllawiau Covid yn cael eu llacio, rydym mewn cyfnod gwahanol iawn o'r pandemig. Rydym yn awyddus i ddilyn y sefyllfa newidiol o ran iechyd meddwl poblogaeth Cymru, ac ystyried strategaethau adfer priodol.

“I wneud hynny, bwriadwn nawr i barhau i gynnal yr arolygon llesiant hyn bob chwe mis.”

Derbyniwyd mwy na 23,000 o ymatebion ar gyfer y ddau arolwg ac mae eu hatebion wedi arwain ymchwilwyr i'r casgliad bod Cymru yn wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19.

Datgelodd canlyniadau'r arolwg diwethaf, a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, fod lefelau llesiant y boblogaeth wedi gostwng ychydig ers yr holiadur cychwynnol. Nawr, nododd 40.4 y cant o ymatebwyr lefelau cymedrol neu ddifrifol o drallod seicolegol o gymharu â 36.8 y cant yn 2020.

Dangosodd yr ymchwil hefyd fod y grŵp oedran ieuengaf 10 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn trallod na'r grŵp hynaf o gyfranogwyr.

Mae grŵp ymchwil Llesiant Cymru hefyd yn cynnwys Dr Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda chymorth gweithiwr marchnata proffesiynol Stuart Williams a myfyrwyr PhD Prifysgol Abertawe James, Knowles, Jennifer Pink a Nicola Simkiss.

Ychwanegodd yr Athro Gray: “Rydym newydd lansio ein trydydd arolwg a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr cael unrhyw gefnogaeth i'w rannu ymhlith cydweithwyr, cymunedau ffrindiau a theulu. "

Croeso i chi gymryd rhan yn ein harolwg diweddaraf nawr. Nid oes ots os nad ydych eisoes wedi bod yn rhan o'r ymchwil, mae croeso i unrhyw un ymuno, gellir rhoi'r atebion ar-lein neu fesul post neu e-bost a bydd ymatebwyr yn aros yn ddi-enw.

Dyddiad cau’r arolwg yw dydd Sul, Tachwedd 14.

Rhannu'r stori