Prifysgol Abertawe yn paratoi i groesawu myfyrwyr fferylliaeth i gyfleusterau cyfoes newydd

Mae gwaith wedi dechrau i greu cyfleusterau cyfoes gwerth £2.1m ar gyfer cyrsiau fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe. 

Bydd Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i'w rhaglen MPharm pedair blynedd ym mis Medi. Bydd hefyd yn lansio cwrs fferylliaeth gyda blwyddyn sylfaen.

Bydd y myfyrwyr yn cael manteisio ar gyfleusterau sgiliau fferylliaeth 126m2 newydd a fydd yn ymgorffori gweithdy/lle ar gyfer seminarau ac efelychiad o fferyllfa gymunedol.

Bydd pedair ystafell ymgynghori, y gellir cyfuno dwy ohonynt drwy raniad datodadwy er mwyn efelychu ystafell ysbyty.

Bydd CAE LearningSpace, system gyfoes sy'n efelychu'r broses o reoli canolfan, yn galluogi myfyrwyr i fagu sgiliau ymarfer ar gampws a defnyddio eu dyfeisiau eu hunain gartref i fwrw golwg dros y gwersi a ddysgir.

Dywedodd yr Athro Andrew Morris, Pennaeth Fferylliaeth, y byddai'r datblygiadau hefyd yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod a lle dysgu cymdeithasol newydd i fyfyrwyr ag adnoddau fideogynadledda, yn ogystal â swyddfeydd a lle trafod cymdeithasol ar gyfer academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol.

Meddai: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i ni yn Abertawe wrth i ni baratoi i groesawu ein myfyrwyr fferylliaeth cyntaf.

“Mae ein cyfleusterau newydd – ochr yn ochr â'r paratoadau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf – yn golygu y gallwn gynnig yr hyfforddiant gorau posib i'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr.”

Mewn man arall yn Adeilad Grove y Brifysgol, mae gwaith yn mynd rhagddo i newid labordy at ddibenion dadansoddi cyffuriau a reolir sydd ar restr Atodlen 1, ac ymchwilio iddynt.

Ychwanegodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym bellach yn gweld fferyllwyr yn cyflawni swyddogaethau ehangach ym maes gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd ac maent wedi gwneud cyfraniad hollbwysig at reoli meddyginiaethau a gofal cleifion yn ystod y pandemig. Yn wir, mae Dr Amira Guirguis, Cyfarwyddwr ein Rhaglen MPharm, wedi dangos yr agwedd hon yn ymarferol drwy wirfoddoli i roi brechiadau.

“Bydd gan ein rhaglen MPharm newydd ran allweddol yn y broses o roi gofal fferyllol o'r radd flaenaf i bobl yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o'r cyfraniad y byddwn yn gallu ei wneud at y GIG wrth iddo ddatblygu.”

Mwy o wybodaeth am astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys manylion cofrestru ar gyfer diwrnod agored rhithwir

Rhannu'r stori