Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy'n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i'r hambyrddau er mwyn amsugno'r sudd. Mae hyn yn golygu y gellir bellach ailgylchu'r holl hambwrdd pacio.

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, Alaa Alaizoki (yn y llun), wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy'n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i'r hambyrddau er mwyn amsugno'r sudd. 

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy'n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i'r hambyrddau er mwyn amsugno'r sudd. Mae hyn yn golygu y gellir bellach ailgylchu'r holl hambwrdd pacio.

Mae'r deunydd pacio newydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fanwerthwyr prif ffrwd yn y DU, gan helpu i wneud mwy na 800,000 tunnell y flwyddyn o ddeunydd pacio plastig ar gyfer bwyd sy'n deillio o archfarchnadoedd y DU yn fwy ailgylchadwy.

Dyma gam allweddol tuag at gael gwared ar symiau mawr o badiau amsugnol na ellir eu hailgylchu sy'n mynd i safleoedd tirlenwi o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r cynnyrch hefyd wedi ennill gwobr y cyflenwr mwyaf cynaliadwy yng ngwobrau Footprint 2021 yn ddiweddar.

Mae'r gwaith wedi cael ei arwain gan Alaa Alaizoki, ymchwilydd o Syria sy'n cwblhau ei Ddoethuriaeth Peirianneg (EngD) ym Mhrifysgol Abertawe, dan oruchwyliaeth yr Athro Davide Deganello a Dr Chris Phillips yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru.

Datblygwyd y gwaith mewn cydweithrediad â Klöckner Pentaplast, cwmni pacio bwyd o'r radd flaenaf, a'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, sydd wedi cael cymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan helpu i fwrw ymlaen â'r ymchwil arloesol hon.

Mae angen pacio cynhyrchion cig amrwd yn unol â'r safonau uchaf, at ddibenion hylendid bwyd, diogelwch a gwerth masnachol. Hyd yn hyn, mae padiau plastig datodadwy wedi cael eu defnyddio mewn hambyrddau cig i amsugno'r sudd, er mwyn ymestyn yr oes silff a lleihau'r olwg aflan ac annymunol sy'n achosi i gwsmeriaid ymwrthod â'r cynnyrch.

Yn ogystal ag ychwanegu at gostau a llafur y diwydiant pacio, ni ellir ailgylchu'r padiau hyn, yn wahanol i'r hambyrddau eu hunain.
Mae'r deunydd pacio blaengar yn golygu nad oes angen pad ar wahân o gwbl, gan fodloni'r safonau gofynnol ar yr un pryd.

Mae'r hambwrdd ei hun yn cadw'r sudd drwy'r ceudodau bach sydd wedi cael eu dylunio a'u cynhyrchu at y diben yng ngwaelod yr hambwrdd, sy'n dal sudd y cig y tu mewn i'r ceudodau eu hunain.

Mae'r dull newydd yn sicrhau bod sudd y cig yn aros yn ei le wrth iddo gael ei storio a'i gludo, gan ei atal rhag llifo allan. Drwy hyn, mae'n bosib ailgylchu'r holl ddeunydd pacio, yn ogystal â chadw oes silff a golwg hollbwysig y cynnyrch.

Mae'r cynnyrch pacio newydd wedi cael ei batentu ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchion cig yn y DU a ledled Ewrop.

Meddai'r prif ymchwilydd, Alaa Alaizoki o Brifysgol Abertawe:

“Bydd y cynnyrch hwn yn helpu i leihau swm y plastigion sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, gan sicrhau bod yr hambyrddau'n llwyr ailgylchadwy. Rwy'n falch iawn o weld bod Klöckner Pentaplast eisoes yn rhoi canlyniadau fy ngwaith ymchwil ar waith, gan leihau gwastraff a helpu i leihau'r effaith amgylcheddol. Bu'n wych gweithio gyda'r cwmni a holl aelodau'r tîm ymchwil ac rwy'n gwerthfawrogi eu hagwedd ragweithiol tuag at faterion amgylcheddol yn fawr.”

Gwnaed y gwaith ymchwil fel rhan o raglen COATED M2A Prifysgol Abertawe, sy'n darparu hyfforddiant ymchwil a arweinir gan ddiwydiant i ôl-raddedigion ym maes technoleg caenau diwydiannol gweithredol.

Mae COATED M2A yn ddiolchgar i Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a Klöckner Pentaplast Group am y cyllid sydd wedi hwyluso'r ymchwil hon.

Gweithgynhyrchu Clyfar - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori