Naomi Paulus

Mae Naomi Paulus wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021 am ei stori Take a Bite, “darn difyr, hiraethus a phleserus” sy'n amlinellu profiad menyw ifanc, Rhian, wrth iddi ddychwelyd adref i leisiau ac arferion ei mam a'i modrybedd ar gyfer digwyddiad teuluol pwysig.

Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion Saesneg gorau nas cyhoeddwyd mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at 5,000 o eiriau ar y mwyaf gan awduron 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am ddwy flynedd neu fwy, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1991, wyth o weithiau hyd yn hyn, ac fe'i hail-lansiwyd ar gyfer 2021 gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Mae Paulus wedi ennill £1,000 ac mae ei chynnig buddugol wedi cael ei gynnwys yn y gyfrol Rhys Davies Short Story Award Anthology 2021, a gyhoeddir gan Parthian y mis nesaf. Bydd straeon yr 11 o ymgeiswyr eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer hefyd yn rhan o'r antholeg a byddant yn derbyn £100.

Dywedodd y beirniad gwadd Julia Bell am Take a Bite: “Roedd y stori hon yn un fuddugol o'r adeg y darllenais i hi. Dyma ddarn difyr, hiraethus a phleserus sy'n adleisio gwaith gorau Rhys Davies, gan roi cipolwg i ni am ychydig dudalennau ar fyd sy'n dyner ac yn ddwfn. Rwy'n estyn llongyfarchiadau mawr i Naomi Paulus ac yn edrych ymlaen at ddarllen beth bynnag y bydd yn ei lunio nesaf.”

Ganwyd Naomi yn Abertawe, lle cafodd y rhan fwyaf o'i phrofiadau ffurfiannol. Enillodd radd mewn Athroniaeth o Brifysgol Caergrawnt a dechreuodd ysgrifennu yn fuan ar ôl iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Ers hynny, cyrhaeddodd restr hir Gwobr Primadonna deirgwaith ac enillodd gystadleuaeth ffuglen fflach 2020 yr ŵyl honno. Ochr yn ochr â'i gwaith ysgrifennu, mae hefyd yn cynnal asiantaeth ddigidol yn Llundain.

Meddai Naomi Paulus: "Wrth i mi dyfu i fyny, roeddwn yn hoff iawn o glywed straeon fy mam-gu am ei chwiorydd. Rwyf ar ben fy nigon bod fy stori, a gafodd ei hysbrydoli ganddynt, wedi ennill y wobr hon. Mae cael cydnabyddiaeth Julia Bell a dilyn camre llenorion talentog o Gymru dan enw clodfawr Rhys Davies yn destun balchder mawr i mi. Rwyf wrth fy modd ac yn hynod falch o barhau â thraddodiad pwysig Cymru o lunio straeon."

Caiff Take a Bite: The Rhys Davies Short Story Award Anthology ei lansio'n swyddogol ar-lein ar 30 Medi rhwng 7pm ac 8pm. Bydd y digwyddiad lansio'n cynnwys y beirniad gwadd Julia Bell, y golygydd Elaine Canning a darlleniadau gan yr enillydd a rhai eraill a fu ar y rhestr fer yn 2021.

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Rhannu'r stori