Yr Ysgol Feddygaeth yn barod i groesawu myfyrwyr wrth i bartneriaeth â Chanada dyfu

Mae Prifysgol Abertawe'n adeiladu ar ei gwaith cydweithredol llwyddiannus gyda Phrifysgol Trent yng Nghanada drwy lansio cyfle ychwanegol i astudio ar ddwy ochr yr Iwerydd. 

Mae Abertawe eisoes wedi sefydlu graddau deuol yn y gyfraith a pheirianneg gemegol ar y cyd â'r brifysgol yn Ontario. Bydd y trefniadau hynny bellach yn cael eu hehangu i gynnwys llwybr graddau deuol i raglenni israddedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Bydd myfyrwyr sy'n cael eu recriwtio i'r rhaglen gan Brifysgol Trent yn astudio gradd Baglor yn y Celfyddydau a Gwyddoniaeth gyffredin yng Nghanada am ddwy flynedd cyn mynd rhagddynt i Lefel 5 un o raglenni BSc israddedig Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Ar ôl bod yn Abertawe am ddwy flynedd, bydd y myfyrwyr yn graddio gyda BAS o Brifysgol Trent a BSc o Brifysgol Abertawe.

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Fel prifysgol ryngwladol, rydym yn ffodus y gallwn weithio gyda phrifysgolion, sefydliadau gofal iechyd, diwydiant a'r sector cyhoeddus ledled y byd.

“Mae'r cydweithrediad diweddaraf hwn yn ddatblygiad cyffrous arall ac mae'n dangos y gwaith addysgu, ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf rydym yn ei wneud yma yn Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodiad ein myfyrwyr o Brifysgol Trent ac at eu helpu i fod yn weithwyr iechyd, addysgwyr, ymchwilwyr a gwyddonwyr bywyd proffesiynol y dyfodol.”

Mae gan Brifysgol Trent fwy nag 8,000 o fyfyrwyr ar hyn o bryd ac fe'i rhestrir ymysg y 3.4 y cant o brifysgolion gorau yn y byd, yn ogystal â bod ar y brig yng Nghanada o ran ysgoloriaethau a bwrsarïau.

Sefydlwyd ei chysylltiad ag Abertawe ym 1988 gan yr Ysgol Fusnes at ddibenion cyfnewid myfyrwyr. Yn 2016, gwnaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn Abertawe ehangu'r berthynas drwy weithio gyda Phrifysgol Trent i gynnig graddau BA/BBA LLB deuol.

Yna, yn 2018, lansiwyd y rhaglen peirianneg gemegol sy'n galluogi myfyrwyr i ddilyn eu gradd gyntaf yn y brifysgol yn Ontario am ddwy flynedd cyn astudio yng Nghymru a mynd rhagddynt i raddio gyda BSc o Brifysgol Trent a BEng o Abertawe.

Meddai Dr Mark Skinner, Deon y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Trent: “Mae rhaglen Baglor yn y Celfyddydau a Gwyddoniaeth o'r radd flaenaf Prifysgol Trent yn enwog am ddenu myfyrwyr o safon sy'n ymddiddori yn y croestoriadau rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth.

“Rydym yn falch o weithio gyda Phrifysgol Abertawe i gynnig y cyfle i'n myfyrwyr ehangu eu gorwelion a'u profiad drwy ddysgu rhyngwladol wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfaoedd fel gweithwyr proffesiynol aeddfed yn y sector gofal iechyd.”

Mae'r cydweithrediad â Phrifysgol Trent yn un o bartneriaethau niferus Abertawe â sefydliadau academaidd a busnesau ledled y byd.

Meddai Bernadette Stratford, o'r Adran Partneriaethau Academaidd, sy'n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Trent: “Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i adeiladu ar ein partneriaeth gref â Phrifysgol Trent. Mae rhaglen y gyfraith yn hirsefydlog gyda myfyrwyr Trent o Lefel 4 i Lefel 6, a byddwn yn croesawu'r garfan gyntaf o beirianwyr cemegol o Ganada ym mis Medi.

“Ein nod yw dod â sefydliadau a chyrff ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol a meithrin partneriaethau strategol, ac mae ein perthynas â Phrifysgol Trent yn enghraifft wych o lwyddiant yn hyn o beth.”

 

 

Rhannu'r stori