Llun o Dr Emrys Evans a Dr Annie Tubadji

Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y gymdeithas ddydd Mercher, 19 Mai.

Mae'r medalau'n dathlu cyflawniadau'r unigolion dan sylw a chryfder diwylliant academaidd Cymru, o'i phrifysgolion i'w hysgolion.

Mae Dr Emrys Evans a Dr Annie Tubadji o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr Medal Dillwyn eleni, sy'n cydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.

Mae Dr Evans, un o gymrodyr ymchwil y Gymdeithas Frenhinol mewn Cemeg, wedi derbyn Medal Dillwyn ym maes STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth) o ganlyniad i'w ymchwil i led-ddargludyddion organig.

Ar hyn o bryd, mae'n astudio dosbarth newydd o ddeunyddiau y gellir eu defnyddio o bosib at ddibenion sy'n amrywio o optoelectroneg i wyddor gwybodaeth cwantwm.

Meddai Dr Evans: “Rwyf wrth fy modd i dderbyn y fedal hon, ac rwyf am ddiolch i'm mentoriaid, fy nghydweithredwyr a'm myfyrwyr presennol a blaenorol.

“Mae fy ngwaith ymchwil yn archwilio deunyddiau moleciwlaidd a allai gynhyrchu golau mewn modd mwy ynni-effeithlon a bod yn sail i dechnolegau newydd.

“Cefais fy magu yn Abertawe ac mae'n gyffrous fy mod wedi dychwelyd y llynedd i wneud fy ngwaith ymchwil yng Nghymru.” 

Mae Dr Tubadji, Uwch-ddarlithydd mewn Economeg, wedi derbyn Medal Dillwyn oherwydd ei chyfraniad at y Gwyddorau Cymdeithasol, yn enwedig ei gwaith datblygu seiliedig ar ddiwylliant ar ragfarnau diwylliannol, anghydraddoldeb a gwahaniaethu.

Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi canolbwyntio ar anghydraddoldeb, iechyd meddwl a pholareiddio yn ystod argyfwng COVID-19. Mae'r gwaith hwn wedi denu sylw rhyngwladol.

Meddai Dr Tubadji: “O'r holl fedalau, rwy'n falch bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu Medal Dillwyn i mi!

“Mae'r teulu Dillwyn wedi dangos drwy esiampl fod fy mhatrwm datblygu seiliedig ar ddiwylliant yn gweithio'n ymarferol: gwnaeth y teulu ddefnyddio celf a gwyddoniaeth i symud y canolbwynt diwylliannol ac economaidd o Lundain i Abertawe ar un adeg. Roedd hyd yn oed Wittgenstein yn ffafrio Abertawe'n fwy na Chaergrawnt bryd hynny!”

Rhannu'r stori