Ysbyty: mae astudiaeth newydd o farn a phrofiadau meddygon teulu wedi datgelu bod meddalwedd sy'n ceisio lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty o ddefnydd a budd cyfyngedig i gleifion.

Mae astudiaeth newydd o farn a phrofiadau meddygon teulu wedi datgelu bod meddalwedd sy'n ceisio lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty o ddefnydd a budd cyfyngedig i gleifion.

Mae'r astudiaeth yn adeiladu ar ymchwil gynharach gan yr un tîm a ddangosodd fod nifer y derbyniadau brys wedi cynyddu – yn hytrach na gostwng – pan gyflwynwyd yr adnodd yng Nghymru, lle rhoddwyd terfyn ar y broses o'i roi ar waith. Serch hynny, mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n helaeth yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae ymchwilwyr yn datgan bod yr astudiaeth newydd yn ategu bod angen rhagor o dystiolaeth ac ymchwil ynghylch y broses o roi'r feddalwedd ar waith a'i heffeithiau.

Mae'r feddalwedd yn adnodd i ragfynegi risgiau, sy'n dwyn yr enw PRISM yng Nghymru. Mae'n nodi pobl sy'n wynebu'r risg fwyaf y bydd angen gofal brys arnynt, yn seiliedig ar eu defnydd blaenorol o ofal iechyd, diagnosisau a meddyginiaethau. Y syniad yw y gellir lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty drwy reoli'r cleifion hyn mewn modd penodol, gan wella canlyniadau a phrofiadau cleifion, a chynnig gwerth gwell am arian.

Fodd bynnag, yn ôl yr ymchwilwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a wnaeth werthuso'r defnydd o PRISM yng Nghymru, nid oedd llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y feddalwedd yn cyflawni'r amcanion hyn.

Nawr, er mwyn taflu rhagor o oleuni ar y ffordd y defnyddir yr adnodd yn ymarferol, mae aelodau'r un tîm wedi cyhoeddi ail astudiaeth, sy'n archwilio barn a phrofiadau meddygon teulu a rheolwyr meddygfeydd sydd wedi defnyddio PRISM.

Gwnaethant gyfweld â 22 o feddygon teulu a rheolwyr meddygfeydd mewn 18 o feddygfeydd yn ne Cymru, rhwng tri a chwe mis ar ôl iddynt ddechrau defnyddio PRISM ac eto 18 mis yn ddiweddarach.

Daethant i'r casgliadau canlynol:

Yn gyffredinol, roedd meddygon teulu'n credu ei bod hi'n annhebygol bod PRISM wedi cael unrhyw effaith ar nifer y derbyniadau brys. Roedd ymdeimlad eang bod meddygon teulu'n gyfrifol am gyfanswm isel o dderbyniadau yn y lle cyntaf ac nad oedd llawer o fodd i leihau'r niferoedd ymhellach.
Gwnaeth ymatebwyr ddatgan bod y penderfyniad i ddefnyddio PRISM yn seiliedig yn bennaf ar y cymhellion a oedd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru dan ei Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ar gyfer gwella gofal.
Amharwyd ar y defnydd o PRISM gan y ffaith nad oedd y feddalwedd wedi cael ei hintegreiddio â systemau meddygfeydd.
Er bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn amau nad oedd PRISM wedi cael effaith fawr, gwnaethant grybwyll enghreifftiau o effaith y feddalwedd ar ofal cleifion unigol.
Gwnaeth y mwyafrif o'r ymatebwyr ddatgan bod PRISM wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth o gleifion risg uchel, gan dynnu sylw at rai cleifion nad oeddent wedi cael eu rhestru yn y categori risg uchel o'r blaen.

Casgliadau cyffredinol yr ymchwilwyr oedd bod barn gymysg am PRISM ymhlith meddygon teulu, a bod angen rhagor o wybodaeth ar y rhai sy'n llunio polisïau am y ffordd y defnyddir yr adnoddau hyn yn ymarferol, ac am effeithiau'r adnoddau hyn ar benderfyniadau, yn ogystal â chanlyniadau cleifion.

Meddai'r Athro Helen Snooks o dîm y prosiect yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Defnyddir adnoddau fel PRISM yn helaeth gan y GIG ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, gyda'r nod o leihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty. Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth i gefnogi'r farn eu bod yn hwyluso gofal rhagweithiol ac yn gwella canlyniadau cleifion.

Gwnaeth ein hymchwil ddangos bod barn a phrofiadau meddygon teulu a rheolwyr meddygfeydd am y defnydd o PRISM yn gymysg. Yn aml, rhywbeth byrdymor oedd hwn a oedd yn deillio o ffactorau allanol yn hytrach na rhywbeth a oedd yn cael ei wreiddio mewn ffyrdd newydd o weithio.

Mae angen rhagor o wybodaeth ar y bobl sy'n gwneud penderfyniadau am y broses o roi adnoddau o'r fath ar waith a'u heffeithiau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, er mwyn llywio polisïau ar eu defnydd yn y dyfodol.

O ystyried cyd-destun presennol y nifer cynyddol o dderbyniadau brys i'r ysbyty, a chymhellion yr Adran Iechyd yn Lloegr i ddefnyddio'r adnoddau risg hyn mewn gwasanaethau cymunedol, mae ein canfyddiadau'n bwysig ac yn amserol.”

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y British Journal of General Practice.

Rhannu'r stori