Dau fyfyriwr ar eu heistedd yn gweithio mewn labordy cyfrifiaduron.

Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion (20 - 26 Medi 2021), bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal cwrs am ddim i annog oedolion i fagu sgiliau newydd.

Wedi'i drefnu drwy Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS), mewn cydweithrediad â'r radd BA ran-amser yn y Dyniaethau, bydd Dysgu a Newid yn cynnig cam cyntaf ar y daith i addysg uwch ar gyfer pobl 21 oed neu’n hŷn sydd heb fynd i'r brifysgol.

Drwy gydol y cwrs pum wythnos, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dysgu ffeithiau a thechnegau gwerthfawr, yn rhannu eu profiad a'u gwybodaeth ac yn archwilio eu hopsiynau.

Yn bwysig, gall cyfranogwyr ddewis astudio yn y lleoliad mwyaf addas i'w bywyd a'u hamserlen ddyddiol. Mae'r opsiynau'n cynnwys:

Meddai Claudia Mollzahn, Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu ag Oedolion Prifysgol Abertawe: “Mae cynnig rhaglen newydd fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion yr hydref hwn yn destun cyffro mawr i ni.

“Bu cysylltiad agos rhwng Canolfan y Ffenics a Gweithdy DOVE a Phrifysgol Abertawe ers blynyddoedd. Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae'r ddwy ganolfan yn awyddus i weithio gyda ni ar y cwrs byr wyneb yn wyneb hwn ar gyfer pobl sydd am newid eu bywyd ac sy'n ceisio cyfleoedd i wneud hynny.

“Gall unrhyw un sy'n 21 oed neu’n hŷn ac sydd heb fynd i'r brifysgol gymryd rhan.”

Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu gadw lle, ewch i dudalen we Wythnos Addysg Oedolion Prifysgol Abertawe. Fel arall, cysylltwch â Claudia Mollzahn drwy e-bostio c.h.mollzahn@abertawe.ac.uk, neu drwy ffonio 07599274561.

Rhannu'r stori