Rôl allweddol arbenigwr ecodwristiaeth yn uwchgynhadledd rithwir Diwrnod Cefnforoedd y Byd

Bydd Carl Cater, arbenigwr ecodwristiaeth Prifysgol Abertawe, yn cymryd rhan mewn digwyddiad byd-eang i nodi Diwrnod Cefnforoedd y Byd y Cenhedloedd Unedig ddydd Mawrth, 8 Mehefin. 

Bydd Dr Cater, athro cyswllt mewn twristiaeth yn yr Ysgol Reolaeth, yn ymuno mewn trafodaeth gan banel yn ystod y gynhadledd rithwir dros un diwrnod y disgwylir iddi gyrraedd mwy na 60 miliwn o bobl drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Thema'r digwyddiad eleni yw Cefnforoedd: Bywyd a Bywoliaeth a bydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, a Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Volkan Bozkir, yn gyfrifol am gychwyn rhaglen o areithiau cyweirnod, paneli a chyflwyniadau.

Meddai Dr Cater: “Rwy'n teimlo'n freintiedig y gofynnwyd i mi gyfrannu at y digwyddiad hwn a'r panel ar greu bywoliaeth gynaliadwy i bobl mewn cymunedau arfordirol. Gall y fywoliaeth hon ddeillio o adnoddau morol drwy gydnabod eu hasedau a defnyddio twristiaeth fel un ffordd o fanteisio arnynt.”

Nod trafodaeth y panel fydd tynnu sylw at atebion a all drawsnewid a sefydlu ffyrdd cyson sy'n addas i bobl o gydbwyso ein perthynas â'r cefnforoedd.

Mae gan Dr Cater brofiad sylweddol o'r maes hwn, ar ôl ysgrifennu llyfr a phapurau ymchwil ar ecodwristiaeth forol, yn ogystal â bod yn aelod o fwrdd golygyddol Journal of Tourism in Marine Environments.

Meddai: “Rwyf wedi bod yn gweithio ar y berthynas rhwng twristiaeth a chadwraeth forol ers cwpl o ddegawdau, ar ôl gweithio yn y gorffennol gyda phartneriaid megis Awdurdod Parc Morol y Bariff Mawr, fel cynghorydd gwyddonol i Coral Cay Conservation ac mewn cymunedau arfordirol niferus sy'n cynnal ecodwristiaeth forol ledled y byd.”

Gwnaeth ei bapur diweddaraf archwilio materion y partneriaethau sy'n mynd ati i gyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy Rhif 14 y Cenhedloedd Unedig, Bywyd o dan y dŵr, ac mae ef hefyd wedi archwilio poblogrwydd cynyddol sgwba-blymio mewn lleoliadau twristiaeth dorfol yn y Canoldir.

Ers iddo gael ei gyflwyno gan y Cenhedloedd Unedig yn 2008, mae Diwrnod Cefnforoedd y Byd wedi dathlu'r cefnforoedd a'u pwysigrwydd i'n planed a'n bywydau. Yn ystod y pandemig, mae'r byd wedi gweld yn gliriach nag erioed i ba raddau yr ydym gyda'n gilydd yn ddibynnol ar y cefnforoedd. Bydd y digwyddiad eleni yn taflu goleuni ar ryfeddodau'r cefnforoedd a'r ffordd y maent yn rhoi cymorth i bobl a phob organeb arall ar y Ddaear.

Bydd y gynhadledd yn dod â gwyddonwyr, fforwyr, arbenigwyr a chymunedau arfordirol o bedwar ban byd ynghyd i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cefnforoedd a thrafod yr angen i ddatblygu cydbwysedd newydd â'r cefnforoedd sy'n gynhwysol ac yn flaengar, ac sy'n cael ei lywio gan y rhai sy'n ddibynnol arnynt, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd yn y gorffennol.

Ychwanegodd Dr Cater: “Mae Diwrnod Cefnforoedd y Byd y Cenhedloedd Unedig yn fenter wych sy'n tynnu sylw at natur fregus ein cefnforoedd yn ogystal â'r cyfleoedd a gynigir ganddynt.”

Dilynwch @UNWorldOceansDay #DiwrnodCefnforoeddyByd

A oes gennych ddiddordeb mewn ecodwristiaeth? Mae mwy o wybodaeth ar gael am ein MSc newydd mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, a gaiff ei lansio ym mis Medi 

Rhannu'r stori