(O'r chwith) Sinead O’Haire, o Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh, Muriel Gray, Dirprwy Gadeirydd yr Amgueddfa Brydeinig, a Sam Powell. Ffotograff ©Egypt Centre.

Mae gwirfoddolwraig hirsefydlog wedi cael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i Ganolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe.

Gwnaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh gyflwyno gwobr rhanbarth Cymru ar gyfer dysgu mewn amgueddfeydd i Sam Powell, un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, mewn seremoni a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dechreuodd Sam wirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd pan oedd yn fyfyrwraig israddedig cyn dychwelyd yn ystod ei chwrs gradd ôl-raddedig yn Abertawe. Ers hynny, mae hi wedi profi ei bod hi'n gaffaeliad aruthrol i Amgueddfa Hynafiaethau'r Aifft, wrth i'w doniau, ei gallu a'i brwdfrydedd dros ddysgu ac addysgu am yr Hen Aifft ddod i'r amlwg, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth Sam gymedroli cyrsiau Eifftoleg, digwyddiadau i godi arian a chynadleddau ar-lein, a chreu a chyflwyno cwisiau ar-lein, yn ogystal ag ysgrifennu cynnwys a phrawf-ddarllen gwaith pobl eraill ar gyfer blog casgliadau'r Ganolfan Eifftaidd.

Cyflwynodd waith ymchwil y ganolfan yng nghynhadledd ar-lein yr amgueddfa yn 2020 yn ogystal â chynadleddau eraill. Roedd hi hefyd yn rhan o'r broses o hwyluso'r modiwl ar drin gwrthrychau ar gyfer y cwrs MA yn Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol. Yn ogystal, Sam yw cyd-gadeirydd a swyddog digwyddiadau Cyfeillion y Ganolfan Eifftaidd, sy'n cefnogi gwaith yr amgueddfa.

Drwy greu cyfryngau ar-lein megis catalog ABASET (adnodd ar-lein i roi mynediad at gasgliad y Ganolfan Eifftaidd) a fideos byr y Ganolfan Eifftaidd, gwnaeth hi roi mynediad at gasgliad yr amgueddfa a bydd y rhain yn parhau i fod ymysg arlwy'r amgueddfa yn y dyfodol. Yn ogystal, mae ymchwil Sam i wrthrychau'r Ganolfan Eifftaidd, ac i ffigurau pren o'r Hen Aifft yn benodol, wedi ehangu'r wybodaeth am yr eitemau hyn.

Meddai: “Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ganolfan Eifftaidd am fy enwebu am y wobr hon. Mae'r amgueddfa wedi fy nghefnogi'n aruthrol drwy gydol fy ngradd gyntaf a'm gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae gwirfoddoli wedi bod yn gyfle anhygoel.” 

Dywedodd Syd Howells, rheolwr gwirfoddoli'r amgueddfa, y byddai'r Ganolfan Eifftaidd wedi wynebu problemau yn ystod y cyfnodau clo heb wirfoddolwyr megis Sam.

Meddai: “Mae ei hymdrechion diflino wedi cadw'r Ganolfan Eifftaidd yn llygad y cyhoedd ar adeg anodd, gan weithredu fel rhyw fath o ganolbwynt cymunedol rhithwir i'r rhai sydd â diddordeb yn yr Hen Aifft.

“Mae Sam wedi dangos ymrwymiad dihafal ac mae ei hymdrechion gwirfoddol wedi newid y ffordd y bydd yr amgueddfa'n gweithredu yn y dyfodol. Dyma'r nod. Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth.”

Rhannu'r stori