Labordy ymarfer corff: mae arbenigwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra yn Awstralia wedi lansio partneriaeth swyddogol i gydweithredu ar ymchwil, addysgu a chyfnewid myfyrwyr.

Mae arbenigwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra yn Awstralia wedi lansio partneriaeth swyddogol i gydweithredu ar ymchwil, addysgu a chyfnewid myfyrwyr.

Lansiwyd y bartneriaeth mewn digwyddiad ar-lein y gwnaeth is-gangellorion y ddwy brifysgol ac oddeutu 50 o gydweithwyr academaidd o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra gymryd rhan ynddo.

Mae'r ddwy brifysgol yn ganolfannau rhagoriaeth mewn gwyddorau chwaraeon.

Mae gan Brifysgol Canberra arbenigedd ymchwil mewn meysydd megis chwaraeon perfformiad uchel, uniondeb chwaraeon, meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff, a ffisioleg amgylcheddol.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Canberra yn gweithio'n agos gyda sefydliadau proffesiynol o'r radd flaenaf yn Awstralia, gan gynnwys Undeb Rygbi'r Brumbies, clwb pêl-fasged menywod Prifysgol Canberra, Canberra United (clwb pêl-droed i fenywod), Athrofa Chwaraeon Awstralia, a'r cyrff sy'n llywodraethu plymio, triathlon, nofio a chriced yn Awstralia.

Mae adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe ymysg yr 20 uchaf yn y DU ac yn bumed yn y DU am effaith ymchwil. Mae'r meysydd ymchwil yn cynnwys chwaraeon proffesiynol ac elît, ymarfer corff, iechyd a meddygaeth, a moeseg, uniondeb a llywodraethu chwaraeon.

Mae'r tîm yn Abertawe'n gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru, y Gweilch, Undeb Rygbi Lloegr, Athrofa Chwaraeon Lloegr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA).

Mae ymchwilwyr o'r ddwy adran eisoes wedi bod yn cydweithio ar bynciau megis gwyddor rygbi. Bydd y bartneriaeth yn adeiladu ar y sylfaen honno i gydweithredu ar amrywiaeth o fentrau newydd sy'n ategu amcanion ymchwil ac addysgu strategol y ddwy brifysgol.

Mae'r gweithgareddau sydd yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys: cyfres o seminarau ymchwil; cyllid sbarduno i ddatblygu prosiectau ymchwil; cyfnewid myfyrwyr; a gweithgareddau addysgu ar y cyd.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn deall pwysigrwydd meithrin partneriaethau rhyngwladol cadarn, dynamig a buddiol i'r ddwy ochr ledled y byd. Mae meddylfryd byd-eang a chyrraedd rhyngwladol Prifysgol Canberra yn cyd-fynd yn naturiol â'n gwerthoedd ein hunain; felly, rydym yn falch iawn o gael archwilio cyfleoedd cyffrous i'n sefydliadau gydweithredu.

O ystyried pa mor ganolog y mae chwaraeon i uchelgeisiau strategol ein prifysgolion, mae'n hollol deilwng bod ein menter gydweithredol gyntaf ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff. Rwy'n falch ein bod yn cychwyn ar y daith gyffredin hon.”

Meddai'r Athro Paddy Nixon, Is-ganghellor Prifysgol Canberra:

“Mae gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra werthoedd a dyheadau cyffredin, ac mae rhagoriaeth ymchwil ac addysgol wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud. Bydd y bartneriaeth hon yn hwyluso mentrau cydweithredol newydd a mwy rhyngom, gan ganolbwyntio ar ymchwil, cyfnewid a datblygu achrediadau ar y cyd.

Bydd Prifysgol Canberra cyn bo hir yn cyhoeddi strategaeth chwaraeon ar gyfer y sefydliad cyfan, a bydd partneriaethau rhyngwladol megis yr un ag Abertawe yn ein rhoi ni ymysg ceffylau blaen y byd ym maes chwaraeon.”

Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, dirprwy bennaeth partneriaethau academaidd Prifysgol Abertawe:

“Mae ein partneriaethau rhyngwladol presennol – o Decsas i Grenoble – yn dangos yn glir eu bod o fudd i fyfyrwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd. Rwy'n hyderus y bydd yr un peth yn wir am y fenter gydweithredol newydd gyffrous hon rhwng dwy ganolfan ragoriaeth flaenllaw ym maes gwyddorau chwaraeon.”

Meddai'r Athro Liam Kilduff, pennaeth tîm ymchwil chwaraeon cymhwysol, technoleg, ymarfer corff a meddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Mae cydweithrediad o'r math hwn yn hanfodol i'n cynllun strategol cyffredinol fel adran. Mae Canberra yn addas iawn gan fod gorgyffwrdd sylweddol rhwng y ddau grŵp a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ein proffil ymhellach. Ond bydd y bartneriaeth hon hefyd yn rhoi'r cyfle i ni ehangu i feysydd addysgu ac ymchwil newydd a chyffrous a fydd o fudd i'r staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd.”

 

 

 

Rhannu'r stori